Diolch yn fawr iawn i’r holl artistiaid, gerddi cymunedol, prosiectau celf defnyddiol/cymdeithasol a’r holl gyfranwyr eraill sydd wedi gwneud yr arddangosfa hon yn bosibl.
Diolch hefyd i fasnachwyr Cwrt Bwyd Tŷ Pawb a Hyb Amlddiwylliannol Gogledd Cymru am ddarparu’r bwyd cyffrous yn y digwyddiad agoriadol.
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Mae Gardd Gorwelion / Horizon Garden yn archwilio tyfu cymunedol ac amgen mewn ymateb i’r brys cymdeithasol sy’n ymwneud â newid hinsawdd, ynysu cymdeithasol, unigrwydd a thlodi bwyd.
Fel rhan o’r arddangosfa byddwn yn rhoi sylw i rai o brosiectau Celf Gymdeithasol a thyfu Wrecsam gan gynnwys Gardd Gymunedol Coedpoeth a Gardd Furiog Erlas, yn ogystal â Maes Parcio Creadigol Tŷ Pawb – y prosiect gardd gymunedol sy’n cael ei ddatblygu ar ein to.
Byddwn hefyd yn proffilio enghreifftiau o brosiectau Celf Ddefnyddiol/Celf Gymdeithasol cenedlaethol gan gynnwys GRAFT – gardd a man gweithdy cymunedol dan arweiniad yr artist Owen Griffiths, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (NWM) a NTH/NYA; Gardd Aeaf Grandby – gofod sy’n eiddo i’r gymuned a ddatblygwyd gan Grandby Four Streets a’r penseiri Assemble; a Company Drinks – man cymunedol a menter gymdeithasol yn Barking a Dagenham.
Gan bwysleisio buddion lles natur, bydd yr arddangosfa hefyd yn ddihangfa werdd ffrwythlon a bywiog i ymwelwyr, yn cynnwys gwaith gan yr artistiaid gweledol Morag Colquhoun, Owen Griffiths, Jackie Kearsley, Sumuyya Khader, Jonathan LeVay, Ann McCay, Aidan Myers ac Alessandra Saviotti .
Mae’r arddangosfa’n cynnwys dau waith celf newydd a gomisiynwyd gan Tŷ Pawb ochr yn ochr â gwaith presennol gan artistiaid o Gymru a’r DU.
Rydym hefyd yn falch iawn o allu cyflwyno nifer o weithiau celf a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru, gan Graham Sutherland, Maurice de Vlaminck a Dr Harold Drinkwater.
Bydd Gardd Gorwelion ar agor o 28 Ionawr tan 8 Ebrill 2023.
Oriau agor yr oriel: 10am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.
Cofrestrwch rŵan