Polisi preifatrwydd

Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Rydym eisiau chi wneud y mwyaf o’r wefan hwn a’r wybodaeth y mae’n ei ddarparu, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd.

Gwybodaeth bersonol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol (unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod) drwy’r safle hwn (news.wrexham.gov.uk).

Ond rydym yn annog i ddarllenwyr glicio a defnyddio gwasanaethau ar ein prif wefan (www.wrexham.gov.uk).

I ddefnyddio rhai o’r gwasanaethau hyn, mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i’r cyngor (cofrestru i gael gwybodaeth neu i dalu biliau ar-lein er enghraifft).

Rydym yn trin unrhyw wybodaeth bersonol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, a gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd llawn ar ein prif wefan.

Cwcis

Rydym yn defnyddio ‘cwcis’ ar y safle hwn, yn ogystal â’n prif safle.

Cwci yw neges fechan a roddir ar eich porwr gwe gan wefannau y byddwch yn ymweld â nhw.

Mae’r porwr yn cadw’r neges, ac yna caiff y neges ei hanfon yn ôl at y gweinyddwr bob tro mae’r porwr yn gofyn am dudalen o’r gweinyddwr.

Maent yn cael eu defnyddio’n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.

Y cwcis yr ydym ni’n eu defnyddio ar y safle hwn (news.wrexham.gov.uk) yw cwcis Google Analytics.

Maent yn darparu gwybodaeth anhysbys wedi cronni i ni ar sut mae pobl yn defnyddio’r safle – sy’n ein helpu i ddeall beth maent yn ei gael yn ddiddorol a defnyddiol.

Nid ydym yn storio gwybodaeth bersonol (fel cyfeiriadau e-bost) mewn cwci.

Diffodd cwcis

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn cael eu gosod i dderbyn cwcis.

Os nad ydych yn dymuno derbyn cwcis, efallai y byddwch yn gallu newid y gosodiadau ar eich porwr gwe i wrthod pob cwci, neu i roi gwybod i chi bob tro mae cwci yn cael ei anfon i’ch cyfrifiadur, gan roi’r dewis p’un ai i dderbyn neu beidio.

I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org neu GOV.UK

I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

Dylech fod yn ymwybodol os ydych yn gosod eich porwr i wrthod cwcis, efallai bydd rhai pethau sydd ddim yn gweithio ar wahanol wefannau pan fyddwch yn ymweld â hwy.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Mae’n syniad da i ymweld â’r dudalen hon o dro i dro, gan y gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiwygio’r telerau ar unrhyw adeg.

Gall rhai darpariaethau yn y Telerau hyn gael eu disodli gan hysbysiadau cyfreithiol penodol neu delerau a leolir ar dudalennau penodol ar wefan Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.