Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhyddhau Ffilm “Free Guy” Ryan Reynolds ar 13 Awst!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhyddhau Ffilm “Free Guy” Ryan Reynolds ar 13 Awst!
Arall

Rhyddhau Ffilm “Free Guy” Ryan Reynolds ar 13 Awst!

Diweddarwyd diwethaf: Awst 5, 2021 9:00 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Free Guy
RHANNU

Wrth i ni ddechrau edrych ymlaen at fwynhau rhagor o amser hamdden eleni, mae cyffro yn datblygu ymhlith y rhai sy’n hoff o ffilmiau yma yn Wrecsam gydag ond ychydig o ddyddiau i fynd nes y bydd “Free Guy”, ffilm newydd cydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds, yn cael ei dangos mewn sinemâu ar draws y wlad!

Gan fod Reynolds a Rob McElhenney yn gydberchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae Disney wedi comisiynu dangosiad preifat o’r ffilm i gael ei gynnal yma yn y dref yn Odeon ar 10 Awst, cyn iddi gael ei rhyddhau’n swyddogol mewn sinemâu ar 13 Awst ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Er y bydd prif ddangosiad y DU yn cael ei gynnal cannoedd o filltiroedd i ffwrdd ar Leicester Square, bydd Disney’n cynnal digwyddiad lleol a phreifat a fydd yn cynnwys staff gwasanaethau rheng flaen ac elusennau gan gynnwys Hosbis Tŷ’r Eos a Blood Bikes er mwyn diolch am eu gwaith dros yr 16 mis diwethaf.

Ni fydd y cast yn mynychu’r digwyddiad yn sgil cyfyngiadau ar deithio ac ymrwymiadau eraill, fodd bynnag, rydym yn siŵr y bydd cefnogwyr sinema Wrecsam yn awyddus iawn i weld y ffilm ddiweddaraf hon gan y seren Deadpool, Reynolds.

Mae’r ffilm yn adrodd hanes gêm fideo byd agored, Free City, lle mae Guy (Reynolds) yn gweithio fel clerc banc. Diolch i raglen a ddatblygwyd gan raglenwyr a gaiff eu rhoi yn Free City gan y cyhoeddwr – daw Guy i wybod ei fod yn byw mewn gêm fideo, ac mae’n datblygu i fod yn arwr gan gystadlu’n erbyn y cloc i arbed y gêm rhag cael ei chau i lawr gan y datblygwyr.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym wedi dotio at y newyddion gwych bod Disney wedi ystyried Wrecsam ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn, ac rwy’n siŵr y bydd nifer ohonom yn edrych ymlaen at wylio’r ffilm a dechrau mwynhau rhagor o ddigwyddiadau hamdden yn ddiogel wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio ymhellach yma yng Nghymru.

“Er nad yw Ryan a Rob wedi cael cyfle i ymweld â Wrecsam eto – rwy’n gwybod y byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt pan fydd y diwrnod wedi cyrraedd o’r diwedd.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Free Guy

Rhannu
Erthygl flaenorol Playday 2021 Diwrnod Chwarae 2021
Erthygl nesaf PCC Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English