Mae disgyblion Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Holl Saint yng Ngresffordd wedi bod yn rhoi gwerthoedd eu hysgol ar waith, gan godi swm anhygoel o £3,000 drwy ddau ddigwyddiad codi arian cymunedol i gefnogi Cymorth Canser Macmillan a Sefydliad Terry Fox.
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr ysgol Fore Coffi Macmillan, gan ddod â disgyblion, teuluoedd, staff ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgol at ei gilydd i fwynhau lluniaeth a chodi arian ar gyfer achos pwysig. Cododd y digwyddiad tua £1,300 i Macmillan.
Cymerodd yr ysgol ran hefyd mewn ras a ysbrydolwyd gan Terry Fox – Marathon of Hope, gyda phlant o’r Feithrinfa hyd at Flwyddyn 6 yn cymryd rhan. Cynlluniwyd y digwyddiad i fod yn wirioneddol gynhwysol, gyda phob plentyn yn cael ei annog i gymryd rhan mewn ffordd a oedd yn addas iddo. Gyda’i gilydd, cododd y disgyblion swm trawiadol o £2,307.87 ar gyfer Sefydliad Terry Fox.
Mae stori Terry Fox wedi bod yn rhan bwysig o ddysgu ar draws yr ysgol yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae’r disgyblion wedi archwilio stori ryfeddol Terry Fox a’i benderfyniad i wneud gwahaniaeth i fywydau eraill. Mae gan ddisgyblion hŷn gysylltiad personol â’r stori hefyd, ar ôl clywed stori Terry wedi’i hailadrodd gan ei frawd, Fred Fox, pan ymwelodd â’r ysgol y llynedd.

Rhoddodd y digwyddiadau codi arian gyfle i ddisgyblion droi eu dysgu yn weithredu ac arddangos gwerthoedd yr ysgol, sef Parch, Cyfeillgarwch a Gofal. O’r plant ieuengaf yn cymryd rhan yn y ras i ddisgyblion hŷn yn helpu i drefnu a chefnogi’r digwyddiadau, daeth cymuned gyfan yr ysgol at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin.
Trwy eu cyfranogiad, mae disgyblion yn datblygu fel dinasyddion moesegol a gwybodus, yn dysgu am faterion pwysig, yn parchu amrywiaeth ac yn ystyried sut y gallant gyfrannu at eu cymuned a’r byd ehangach. Ar yr un pryd, hyrwyddodd y ras gynhwysol ddatblygiad unigolion iach a hyderus, gan annog disgyblion i fod yn egnïol, meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydnabod pwysigrwydd lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Richard Hatwood, “Rydyn ni’n hynod falch o’n disgyblion a’r ffordd maen nhw wedi cofleidio’r ddau ddigwyddiad codi arian hyn. Maen nhw wedi dangos cymaint o frwdfrydedd, caredigrwydd a phenderfyniad, ac wedi dangos mewn ffordd hyfryd beth mae’n ei olygu i ddangos gwerthoedd ein hysgol, sef Parch, Cyfeillgarwch a Gofal.
Esboniodd y Dirprwy Bennaeth, Miss Sarah Jones, “Mae wedi bod yn hynod braf gweld pob plentyn yn rhan o ras Terry Fox, waeth beth fo’i oedran neu ei allu.
“Mae’r plant wedi dysgu am stori ysbrydoledig Terry Fox ac yna defnyddio eu dysgu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol eu hunain. Rydyn ni hefyd yn hynod ddiolchgar i’n cymuned am eu haelioni a’u cefnogaeth.”
Hoffai’r ysgol estyn ei diolch enfawr i’r holl ddisgyblion, rhieni, staff ac aelodau o’r gymuned ehangach a gefnogodd y digwyddiadau, cyfrannu, pobi, rhedeg, gwirfoddoli a helpu i wneud y gwaith codi arian yn gymaint o lwyddiant.
Gyda’i gilydd, mae cymuned Ysgol yr Holl Saint wedi dangos y gall gweithredoedd bach o garedigrwydd, gyda’i gilydd, wneud gwahaniaeth mawr iawn.



