Byddwn ni’n cydnabod Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ddydd Mawrth, 9 Medi.
Mae diwrnod #999 yn hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys, yn annog defnydd cyfrifol o’r gwasanaethau brys, yn addysgu’r cyhoedd am sgiliau achub bywyd sylfaenol, ac yn hyrwyddo’r cyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli niferus sydd ar gael.
Mae Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999:
- Yn dathlu ein harwyr 999 sy’n gwasanaethu/wedi gwasanaethu.
- Yn hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli ar draws y gwasanaethau brys.
- Yn hyrwyddo defnydd cyfrifol o’r gwasanaethau brys.
- Yn addysgu’r cyhoedd ar sgiliau achub bywyd hanfodol.
- Yn hyrwyddo elusennau gwasanaethau brys a’r gwaith maen nhw’n ei wneud.
- Yn hyrwyddo ymgyrchoedd sy’n cael eu rhedeg gan wasanaethau brys rheng flaen.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Ar ran pawb yn Wrecsam, hoffwn ddiolch eto i bob aelod a chyn-aelod o’r gwasanaethau brys am eu hymroddiad anhunanol i ddyletswydd, eu dewrder a’u hangerdd am y gwaith maen nhw’n ei wneud yma yn Wrecsam a ledled y wlad.”
Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro, Alwyn Jones: “Ddydd Gwener yma byddwn ni’n myfyrio ar y gwaith pwysig ac weithiau anodd a pheryglus y mae’r gwasanaethau brys yn ei wneud i’n cadw’n ddiogel yn ein cymunedau. “Gallwn annog pawb i barchu’r gwaith maen nhw’n ei wneud ac i fod yn ddiolchgar eu bod nhw yno pan mae eu hangen nhw arnon ni mewn argyfwng.”