Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 27, 2026 3:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Social care academy
RHANNU

Mae adran gofal cymdeithasol Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria wedi ymuno i greu Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam.

Mae academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam yn cynnig lleoliadau i ddysgwyr sy’n astudio ar y rhaglen diploma iechyd a gofal cymdeithasol yn y coleg ac mae’n bartneriaeth unigryw ac arloesol rhwng cyngor lleol a choleg addysg uwch.

Mae’r academi wedi bod ar waith ers 2022 ac wedi bod yn llwyddiannus yn cynnig 76 lleoliad i ddysgwyr, gan eu paru a’u cefnogi gyda mentoriaid ymroddedig o faes gofal cymdeithasol.

Mae myfyrwyr yn cael cyfle i brofi gofal cymdeithasol yn llawn, fel eu bod yn deall y rôl bwysig y mae’n ei chwarae yn cefnogi pobl sy’n agored i niwed gyda thosturi ac empathi.

Trwy ddal diddordeb myfyrwyr yn gynnar yn eu gyrfa ac arddangos yr amrywiaeth o rolau, rydym yn helpu i godi proffil gofal cymdeithasol fel opsiwn gyrfa yn Wrecsam.

Cynigir lleoliadau i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal cymdeithasol o fewn ein timau amrywiol, gan gynnwys y gwasanaethau darparwr mewnol, timau gwaith cymdeithasol, canolfannau teuluoedd, therapi galwedigaethol, timau cymorth dilyniant ac sy’n canolbwyntio ar y person a’r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd.

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, aelod arweiniol dros ofal cymdeithasol, iechyd a lles oedolion: “Mae’r cydweithrediad hwn rhwng y cyngor a Choleg Cambria yn dangos ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu’r gweithlu yn y dyfodol.

“Mae’r paratoi a’r cynllunio rydyn ni wedi’i wneud yn golygu bod Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam yn cynnig profiad gwaith ystyrlon a chyfleoedd dysgu i’r myfyrwyr.”

Croesawodd Coleg Cambria hefyd ymweliad diweddar Dawn Bowden, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, i adeilad iechyd gwerth £14m, Nant, ar safle Iâl yn Wrecsam – cartref Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam.

Dywedodd Vicky Edwards, Is-Bennaeth Astudiaethau Technegol yng Ngholeg Cambria: “Roeddem yn falch iawn o groesawu Dawn Bowden i adeilad iechyd Nant ac arddangos effaith Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam. Mae’r bartneriaeth hon gyda Chyngor Wrecsam yn creu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr, gan roi profiad ymarferol iddynt tra’n helpu i ddatblygu gweithlu medrus a thosturiol yn y dyfodol.

“Rydym yn falch o’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i fyfyrwyr a gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Wrecsam. Trwy ymgysylltu â dysgwyr yn gynnar ac amlygu’r amrywiaeth o lwybrau gyrfa sydd ar gael, rydym yn codi proffil gofal cymdeithasol ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Erthygl nesaf St Anne's Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English