Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddu ein Heiddo…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Adnewyddu ein Heiddo…
ArallPobl a lleY cyngor

Adnewyddu ein Heiddo…

Diweddarwyd diwethaf: 2020/11/25 at 9:54 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
adnewyddau
RHANNU

Yng Nghyngor Wrecsam rydym yn falch o ddarparu cartrefi gydol oes o ansawdd ardderchog i’n tenantiaid. Bydd y gwaith a wnawn yn awr, yn ddim byd tebyg i’r hyn a wnaethom o’r blaen. Mae’r eiddo hyn wedi cael eu hadnewyddu yn llwyr o’r top i’r gwaelod, gan gynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, gwaith plastro, gwaith trydanol, gwaith allanol a mwy.

Yn flaenorol, doedden ni ddim mewn sefyllfa ariannol i gynnig eiddo wedi’i adnewyddu i denantiaid newydd ac roeddent yn cael eu cyflwyno yn y cyflwr y gadawyd nhw ynddo, a dim ond gwaith i’w gwneud yn ddiogel oedd yn cael ei wneud cyn i denantiaid symud i mewn. Rydym wedi symud yn bell o hynny erbyn hyn, gan ragori ar y Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym bellach yn cofrestru tenantiaid newydd i eiddo sy’n debyg i ‘gartref arddangos’ y gallant fod yn falch ohono, ac y gallwn ni fod yn falch ohono.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Dywedodd Steve, Saer – Cyngor Wrecsam “Beth allaf ei ddweud, roedd yr eiddo roeddem yn arfer eu rhoi yn ôl yn wael. Dim ond gwasanaeth atgyweirio oeddem y dyddiau hynny a gofynnwyd i ni drwsio pethau. Byddwn yn embaras wrth fynd i mewn a gwneud y gwaith pan oedd y tenantiaid yno, roeddent bob amser yn edrych yn siomedig ein bod ond yn ‘gwneud y pethau sylfaenol’, a byddant yn teimlo y byddai’n dasg enfawr iddynt addurno i safon resymol. Yr adeg hynny, byddent yn cael lwfans addurno a fyddai prin yn talu am y paent ar gyfer lawr grisiau, ond mewn gwirionedd roedd y tŷ cyfan angen mwy na dim ond cot o baent.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Ond erbyn hyn – mae’n drawsnewidiad llwyr. Mae’r eiddo cyfan yn cael ei adnewyddu o’r top i’r gwaelod ac rydym bellach yn defnyddio ein sgiliau i’w potensial llawn, nid dim ond trwsio. Rydym yn darparu cartrefi i bobl y maent yn eu caru ac nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth iddynt. Rwy’n teimlo’n falch pan welaf ymateb pobl i’w cartrefi newydd, mae’n gwneud i ni deimlo fel bod y gwaith a wnawn i gyd yn werth yr ymdrech. Mae’r boddhad o’r swydd yn hynod. Nawr bod gennym amrywiol sgiliau, mae’n golygu ein bod yn llawer mwy effeithlon ac effeithiol ac y gallwn gynnig gwasanaeth llawer mwy proffesiynol.”

Dywedodd Claire, Swyddfa Ystâd Rhos – Cyngor Wrecsam “mae’n rhoi llawer mwy o foddhad i mi nawr wrth gofrestru tenantiaid newydd, rwy’n falch o gael rhoi’r goriadau iddynt.  Pan oeddwn yn cofrestru pobl o’r blaen, byddwn yn ceisio darbwyllo tenantiaid i beidio ag edrych gormod ar y décor, ac ar ôl iddynt addurno, byddai’n teimlo’n llawer mwy cartrefol.”

Dywedodd Miss Roberts, Tenant Cyngor Wrecsam – “Mae fy nhŷ newydd yn fendigedig, mae wedi ei gwblhau i safon mor uchel, y tu mewn a’r tu allan. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i gael cartref mor hyfryd. Mae fy swyddfa ystâd lleol wedi bod mor wych ac wedi fy nghefnogi bob cam o’r ffordd.”

Mae’r cynnyrch o’r safon uchaf a gynigiwn erbyn hyn, trwy fuddsoddiad a oedd gwir ei angen yn ein stoc dai, yn golygu ein bod hefyd yn gostwng cost ein hymateb i geisiadau am waith atgyweirio ac felly mae llai o amharu ar ein tenantiaid hefyd. Rydym hefyd wedi cael y cyfle i gynnig prentisiaethau masnach a swyddi i bobl leol, gan helpu ein heconomi lleol, cefnogi ein cymunedau a’u gwneud yn lleoedd i fod yn falch ohonynt.

Dywedodd y Cyng. David Griffiths – “Mae’n braf gweld bod y gwaith caled a’r buddsoddiad yn talu ar ei ganfed; boddhad swydd, tenantiaid hapus a chymunedau sy’n ffynnu.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Elec A fyddwn yn barod ar gyfer cerbydau trydan erbyn 2030?
Erthygl nesaf Prosiect cymunedol ar y gweill i greu blancedi i gartref gofal Prosiect cymunedol ar y gweill i greu blancedi i gartref gofal

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)

Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
DigwyddiadauPobl a lle

Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam

Gorffennaf 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English