Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arbed amser ac arian!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Arbed amser ac arian!
Y cyngor

Arbed amser ac arian!

Diweddarwyd diwethaf: 2025/09/22 at 4:49 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
gorau ar y goeden
RHANNU

Erthygl wadd gan WRAP Cymru

Mae tymor yr hydref wedi cyrraedd, gwyliau’r haf y tu cefn i ni, a phethau nôl i’w trefn arferol.  Boed yn cael trefn ar fywyd gwaith neu fywyd teuluol, neu eich trefniadau astudio, mae’r hydref yn adeg ddelfrydol i ailosod arferion – yn enwedig yn y gegin. 

Dyna pam mae Cyngor Wrecsam wedi mynd i bartneriaeth gyda Cymru’n Ailgylchu i ddangos sut y gall coginio’n ddoeth eich helpu i arbed amser ac arian, lleihau gwastraff, a’i gwneud hi’n haws nag erioed i fwynhau eich 5 y dydd… a helpu Cymru ar yr un pryd ar ei thaith i fod yn genedl ailgylchu orau’r byd.

Rydym eisoes yn falch o fod yn ail yn y gynghrair ailgylchu fyd-eang – ychydig y tu ôl i Awstria – ond gwastraff bwyd yw lle gallwn gael yr effaith fwyaf.  Ar gyfartaledd, mae chwarter pob bin sbwriel yng Nghymru yn cynnwys gwastraff bwyd, a gallai dros 80% o hynny fod wedi cael ei fwyta.  Mae’r bwyd gwastraffu hwnnw’n costio tua £84 bob mis.  Dyna daflu arian (a phrydau bwyd) yn syth i’r bin!

Drwy fod yn fwy doeth gyda’ch prydau bwyd ac ailgylchu’r hyn na allwch ei fwyta, byddwch yn lleihau gwastraff, yn arbed arian, ac yn bwyta eich 5 y dydd yn hawdd – i gyd tra’n helpu Cymru i gyrraedd y brig. Ac rydyn ni’n mynd i ddangos mor syml y gall fod.

Coginio unwaith, gweini sawl gwaith:  Paratoi.  Addasu.  Ailgylchu!

Gyda’r nosweithiau’n tywyllu ac amser yn aml yn brin, yr hydref yw’r tymor ar gyfer bwyd hawdd a di-ffwdan sy’n cynnig cysur. Mae’r syniad yn un syml:  Paratoi.  Addasu.  Ailgylchu!

Coginiwch bryd sylfaen syml gyda chynhwysion bob dydd, yna ychwanegwch ambell beth arall ato i’w gadw’n ffres a blasus. Gweinwch ef mewn gwahanol ffyrdd yn ystod yr wythnos fel eich bod chi’n treulio llai o amser yn y gegin a mwy o amser yn mwynhau’ch prydau.

A chofiwch – dylai’r darnau na allwch eu bwyta, fel croen, coesau, esgyrn neu blisg, fynd yn syth i’ch cadi bwyd. Mae gwastraff bwyd yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy.  Gall un cadi yn unig bweru cartref nodweddiadol am awr! Dyma 3 rysáit hawdd i’ch rhoi ar ben y ffordd.

Stiw sbeshal – syml, hyblyg a llond eich bol

Gall unrhyw beth fynd i’r stiw hwn ac mae’n wych ar gyfer nosweithiau hydrefol pan fyddwch chi eisiau rhywbeth i’ch cynhesu heb ormod o ymdrech. Dechreuwch gyda sylfaen syml o winwns, garlleg, tomatos tun, stoc a’ch dewis o brotein – cig sydd gennych dros ben, ffa neu ffacbys. Yna ychwanegwch ba lysiau bynnag sydd wrth law a gadewch iddo fudferwi’n gymysgedd cyfoethog a chynhesol.

Mae’r pryd hwn yn wych oherwydd gall newid trwy gydol yr wythnos: mwynhewch ef yn gyntaf gyda bara ffres, wedyn gyda thatws stwnsh y noson ganlynol, ac ar ei ben ei hun gyda thoes ar ei ben i’w droi’n bastai yn nes ymlaen yn yr wythnos. A chofiwch, mae crwyn winwns, topiau moron, coesynnau pupur neu esgyrn yn mynd i’ch cadi bwyd i gael eu troi’n ynni gwyrdd.

Cyri o Bob Math – blas mawr, ymdrech fach

Dechreuwch trwy ffrio winwns, garlleg a sinsir, yna cymysgwch sbeisys neu bast cyri ynddo.  Ychwanegwch eich dewis o brotein, boed hynny’n gyw iâr, ffacbys neu tofu, cyn arllwys tomatos tun neu laeth cnau coco.  Ychwanegwch swmp gyda phethau tymhorol – mae pwmpen, pupur, madarch, sbigoglys neu ffa i gyd yn gweithio’n wych.

Ar ôl ei goginio, gallwch ei fwynhau gyda reis fel cinio clasurol, ei lapio mewn bara fflat fel cinio cyflym, neu ei arllwys dros daten bob pan fydd angen rhywbeth cyflym arnoch. Cofiwch ailgylchu’r hyn na allwch ei fwyta i bweru Cymru yn ei blaen i fod yn Rhif 1 yn y byd.

Crymbl Ffrwythau Iach – syml, hyblyg a chysurlon

Pan fo angen bach o gysur arnoch yn yr hydref, does dim yn well na chrymbl ffrwythau. Mae’n syml i’w baratoi a gallwch wneud llwyth o bethau gydag e.  Cymysgwch geirch, blawd ac ychydig o fêl neu surop gyda menyn i greu crymbl euraidd, yna ei bobi dros ffrwythau tymhorol meddal fel afalau, gellyg, eirin neu fwyar duon, gyda ychydig o sinamon neu nytmeg i greu teimlad ychwanegol o gynhesrwydd.

Ar ôl ei bobi, gallwch ei fwynhau’n boeth o’r ffwrn gyda chwstard neu hufen iâ, ei weini’n oer gydag iogwrt ar gyfer brecwast iachus, neu hyd yn oed ei daenu dros fenyn cnau ar dost.  O ran calonnau’r afalau, coesynnau’r gellyg a cherrig eirin – maen nhw i gyd yn mynd i’ch cadi bwyd, yn barod i’w hailgylchu fel ynni glân, gwyrdd.

Cymerwch yr Her Bwyd Doeth ac ennill gwobr flasus o Gymru

Ewch draw i Cymru’n Ailgylchu i gymryd yr Her Bwyd Doeth, gweld rhagor o ryseitiau da fydd yn arbed amser ac arian i chi, a chael cyfle i ennill gwobr flasus o Gymru.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam v oxford Dwy gêm i Glwb Pêl-droed Wrecsam yr wythnos hon – cofiwch y gwasanaeth parcio a theithio!
Erthygl nesaf Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf Mae data twristiaeth blynyddol 2024 ar gyfer Cymru yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi blwyddyn gref arall o dwf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 27, 2026
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau Ionawr 27, 2026
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English