Mae ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon bob amser yn uchel ar agenda Cyngor Wrecsam, a gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn treialu prosiect sydd yn ceisio arbed dŵr.
Y llynedd, fe osododd Cyngor Wrecsam pum synhwyrydd lleithder ym mhotiau canol y dref. Mae’r rhain yn monitro lefelau lleithder er mwyn i ni wybod pa botiau sydd angen eu dyfrio a pha rai sydd ddim. Y nod yw gallu manteisio ar botensial tyfu’r blodau a phlanhigion yng nghanol ac o amgylch y ddinas.
Rydym ni bellach wedi ehangu’r prosiect yma i 50 o synwyryddion.
Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’r prosiect yma wedi bod yn un diddorol iawn sydd wedi’n galluogi i arbed arian drwy arbed amser a dŵr. Mae’r synwyryddion yn dweud yn union pa welyau blodau sydd angen eu dyfrio yn hytrach na rhywun yn mynd o gwmpas yn dyfrio’r holl flodau yn ddyddiol. Nid yn unig y mae hyn yn lleihau ein hôl-troed carbon drwy leihau nifer siwrneiau cerbydau i gasglu dŵr, ond mae hefyd yn lleihau amser staff, gan eu rhyddhau i wneud dyletswyddau eraill yng nghanol y ddinas.
“Bydd y math yma o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni gael dull mwy strategol at rai o’r gweithredoedd, ac yn galluogi i ni weithio’n ddoethach mewn rhai ardaloedd, gan arbed arian sy’n hanfodol i wella gwasanaethau eraill.”
Mae’r gwaith yma wedi ffurfio rhan o’n prosiect Trefi CLYFAR.
Gallwch ddysgu mwy am brosiect Trefi Clyfar yn ein herthygl am gynhadledd ddiweddar.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.