Mae dirgelwch, camddealltwriaeth a gwybodaeth anghywir ynghylch cymunedau’r Sipsiwn, Roma a Theithwyr (SRT).
Nid yw’n hysbys bod gan y tri grŵp ethnig gwahanol hyn, draddodiadau a ffyrdd gwahanol o fyw.
Weithiau, gall y camddealltwriaeth hynny arwain at eu gwthio i’r cyrion a hiliaeth.
Shiftwork – arddangosfa sy’n dod i Tŷ Pawb – yn anelu i chwalu unrhyw fythau, edrych yn fanylach i gynrychiolaeth grwpiau o’r fath, ac yn cynnwys gwaith artistiaid o gymunedau SRT.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith gan artistiaid megis Daniel Baker, Shamus McPhee, Artur Conka a Billy Kerry.
Mae rhai darnau o’r gwaith sy’n cael eu harddangos wedi ei gynnwys fel rhan o’r prosiect Gypsy Maker a lansiwyd yn 2014 gan y Cwmni Celf a Diwylliant Romani i broffilio gwaith artistiaid SRT ar draws Cymru.
Mae Shiftwork yn lansio yn Nhŷ Pawb am 6pm, ddydd Gwener, 31 Awst, a bydd yn rhedeg hyd ddydd Sul, 30 Medi.
Bydd yr artistiaid Shamus McPhee a Daniel Baker hefyd yn cynnal gweithdai teuluol am 10am a 2pm yn Nhŷ Pawb yn ystod diwrnod agoriadol, dydd Sadwrn 1 Medi.
Ar yr un diwrnod bydd Isaac Blake – cyfarwyddwr Cwmni Celf a Diwylliant Romani – yn cynnal sgwrs ar dreftadaeth a diwylliant, ac yn rhoi mewnwelediad i’r prosiect.