Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ddigidol eleni…. ac yn wirion!
Bob blwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn rhoi cyfle i ddarllenwyr ifanc ddarganfod llyfrau newydd, a chasglu gwobrau ar hyd y ffordd. Byddwch yn derbyn sticeri yn ogystal â medal drwy ddarllen chwe llyfr ac ymweld â’r llyfrgell dair gwaith, a’r thema eleni yw llyfrau doniol a hapus sy’n gwneud i chi chwerthin!
Felly, gan fod llyfrgelloedd ar gau ar hyn o bryd, gallwch ymuno ar-lein i gadw cofnod o’ch llyfrau, adolygiadau a’r gwobrwyon fyddwch yn eu datgloi ar hyd y ffordd.
Y Sgwad Gwirion!
Criw o anifeiliaid ydi’r Sgwad Gwirion, maent yn ffrindiau ac yn mwynhau anturiaethau ac ymgolli mewn bob math o lyfrau doniol, ac maent yn barod i gael hwyl gyda chi.
Laura Ellen Anderson yw’r awdur a’r darlunydd poblogaidd sydd wedi dylunio’r cymeriadau arbennig eleni, mae hi wedi ysgrifennu llyfrau gwych, megis Amelia Fang ac Evil Emperor Penguin!
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter wych. Er y bydd yn cael ei darparu mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol eleni, bydd yn llawer o hwyl ac yn annog plant o bob oedran a chefndir i fwynhau darllen.”
Ymunwch â’r Sgwad Gwirion!
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud i gofrestru yw ymweld â gwefan Sialens Ddarllen yr Haf a rhoi ychydig o fanylion. Mae dros filiwn o lyfrau wedi cael eu darllen fel rhan o’r her hyd yma, felly ewch ati i ddechrau darllen! Ymunwch â’r hwyl!
Ym mhle allaf ddod o hyd i lyfrau?
Mae Llyfrgell Wrecsam wedi dechrau gwasanaeth clicio a chasglu newydd. Gallwch archebu llyfrau ar wefan Cyngor Wrecsam a byddwch yn derbyn dyddiad ac amser i gasglu eich llyfrau. Nodwch os gwelwch yn dda, mae’n rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Os ydych chi’n aelod o unrhyw un o lyfrgelloedd Wrecsam, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein. Mae casgliad enfawr o e-lyfrau, e-lyfrau sain, e-gylchgronau ac e gomics ar gael. Ewch i gael golwg arnynt yma.
Ddim yn aelod o’r llyfrgell?
A oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu ymuno â llyfrgelloedd Wrecsam ar-lein? Ymunwch ar-lein rŵan.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN