Fe ddaw deddfwriaeth newydd i rym ar 1 Hydref 2024 i bawb sy’n cadw adar, waeth faint o adar sy’n cael eu cadw. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r rhai sy’n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes gael eu cofrestru ar y Gofrestr Adar sy’n cael eu Cadw.
Pam fod angen i mi fod ar y Gofrestr Adar?
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn helpu i reoli achosion posibl o afiechydon yn y dyfodol megis ffliw adar ac afiechyd Newcastle, a chyfyngu ar unrhyw ledaeniad.
Bydd y wybodaeth ar y gofrestr hefyd yn cael ei ddefnyddio i adnabod pawb sy’n cadw adar mewn parthau rheoli afiechydon, gan alluogi trefniadau goruchwylio effeithiol, er mwyn i barthau gael eu codi cyn gynted â phosibl ac ailddechrau masnachu cyn gynted â phosibl yn dilyn achosion o afiechydon ffliw ym Mhrydain Fawr.
Bydd ceidwaid hefyd yn derbyn gwybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw a fydd yn helpu i reoli achosion a chyfyngu ar unrhyw ledaeniad o afiechyd.
Nid oes yn rhaid i Geidwaid Adar yng Nghymru a Lloegr sydd eisoes wedi cofrestru, i ail-gofrestru.
Nid oes yn rhaid i geidwaid adar megis parotiaid, parotiaid copog a bydjis (yn hysbys fel sitasifformau) ac adar megis sgrech y coed a philaon (yn hysbys fel phaserifformau) gofrestru os ydi eu hadar yn byw yn gyfan gwbl dan do mewn annedd, neu yn cael eu cadw dan do drwy’r amser heb fynediad i fannau awyr agored. Gallwch ddysgu mwy a chofrestru ar wefan gov.uk.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Ymddiriedolaeth y Groes Fictoria yn ymweld â Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch