Os wyt ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod yn cael eich bwlio, mae help, cyngor a chefnogaeth ar gael.
Efallai bod ofn arnat i siarad amdano, ond gyda’r cyfarwyddyd iawn gan gwnselwyr cymwys, mae’n bosibl y byddi’n teimlo’n ddigon hyderus yn y pen draw i siarad am y sefyllfa a chymryd camau i roi gwybod am y bwlis a’u henwi.
Help sydd ar gael
Oeddet ti’n gwybod bod cwnselydd ym mhob ysgol uwchradd (yn ogystal ag wyth ysgol gynradd) yn Wrecsam am ddiwrnod neu ddau bob wythnos? Maen nhw yno i unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn barod i siarad am fater bwlio neu sydd am gael cefnogaeth, a byddant yn gallu gwrando a helpu gydag unrhyw gyngor ar gyfer camau wrth symud ymlaen.
Mae bocsys bwlio yn y rhan fwyaf o ysgolion hefyd. Bydd y bocsys hyn yn galluogi pobl i godi pryderon yn ddienw am fwlio a rhoi gwybod am achosion o fwlio.
Dywedodd person ifanc yn ei raddegau o Wrecsam (nad yw am roi ei enw): “Roeddwn i’n cael fy mwlio am fod yn wahanol. Roeddwn i’n hoffi cerddoriaeth wahanol, roeddwn i’n gwisgo’n wahanol ac roeddwn i’n gwisgo sbectol a bresys ar fy nannedd. Roedd pobl yn galw enwau arnaf, roedd rhai yn bersonol am fy nheulu hyd yn oed a phethau roeddwn wedi dweud wrth fy ffrindiau am fy mywyd. Roeddwn i’n dadlau adref oherwydd y cyfan roeddwn i am ei wneud oedd aros yn fy ystafell; roeddwn i’n ddistaw, doeddwn i ddim yn mynd allan ac roeddwn i’n cadw draw oddi wrth fy ffrindiau.
Gwnaeth fy mhresenoldeb yn yr ysgol leihau a chefais fy nghyfeirio at gwnselydd yr ysgol. Roeddwn i’n nerfus, ond roedd hi’n gwneud i mi deimlo bod croeso i mi. Gwnaethom siarad, ac wrth i mi deimlo’n fwy cyfforddus, dechreuais siarad a dweud wrthi beth oedd yn digwydd. Roedd popeth yn gyfrinachol felly roeddwn i’n teimlo’n ddiogel. Yn y pen draw, ar ôl amser, penderfynais roi gwybod i’r ysgol am y bwlio. Cefais gefnogaeth gan fy nghwnselydd ac athro dosbarth ac aelodau eraill o staff. Cefais opsiynau o ran beth gellid ei wneud a sut byddai pethau’n cael eu trin. Mae pethau’n well nag oedden nhw, ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.”
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Cyngor i Rieni
Os yw eich plentyn yn cael eu bwlio, mae’n bwysig eu bod yn cadw dyddiadur neu eich bod chi’n cadw un ar eu rhan, ac os nad yw galwad ffôn neu ymweliad dechreuol i’r ysgol yn datrys y broblem, dylech roi eich pryderon ar bapur. Mae enghreifftiau o lythyrau ar gael yn y ddogfen canllawiau gwrth-fwlio ar gyfer rhieni.
Gall rhieni/gwarcheidwaid helpu ysgolion i fynd i’r afael â bwlio drwy siarad gyda’u plentyn am fwlio a’r effaith gall ei chael ar ddioddefwyr.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae bwlio yn fater difrifol ac rydym am i bobl wybod bod help ar gael os oes angen arnynt. Pan fo dioddefwyr yn teimlo eu bod yn barod i siarad, mae help ar gael iddynt mewn ysgolion ac yn y siop wybodaeth yn Wrecsam. Rydym am sicrhau bod pawb sy’n dioddef bwlio yn cael eu cadw’n ddiogel a bod y gefnogaeth briodol yn cael ei rhoi iddynt yn ogystal â delio â’r bwlis eu hunain.”
Beth yw bwlio?
Gwneud i rywun arall deimlo’n ofnus, yn ddi-werth, unig, euog neu’n drist yw bwlio – waeth a yw wedi gwneud rhywbeth i achosi hynny ai peidio. Mae fel arfer yn digwydd dro ar ôl tro.
Mae’n gallu digwydd gartref, ar y cyfrifiadur (seiberfwlio), ar ffôn symudol, yn yr ysgol, yn y brifysgol a hyd yn oed yn y gweithle.
Gwybod beth yw eich hawliau
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob ysgol fod â pholisi a gweithdrefn ymddygiad sy’n cwmpasu bwlio. Mae Adran 89 Deddf Addysg ac Arolygon (2006) yn nodi bod rhaid i bob ysgol fod â mesurau i annog ymddygiad da ac atal pob math o fwlio ymhlith disgyblion.
Cefnogaeth Leol
Os wyt ti’n teimlo bod pobl ddim yn gwrando arnat ti neu ddim yn dy gymryd o ddifrif, mi alli di bob amser ofyn am eiriolwr i dy helpu i ddweud beth yw dy ddymuniadau a dy deimladau. Mae gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais yn annibynnol ar yr ysgol, ac mae’n gallu dy helpu i ddweud beth yw dy ddymuniadau a dy deimladau mewn cyfarfodydd. Mi alli di gysylltu gydag Ail Lais dy hun, drwy riant neu drwy athro/athrawes yn yr ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am fwlio a Wrecsam Ifanc, ewch i’r wefan
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU