Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr: cydnabod, cefnogi a grymuso
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr: cydnabod, cefnogi a grymuso
DigwyddiadauY cyngor

Dathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr: cydnabod, cefnogi a grymuso

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 29, 2025 3:57 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Holding hands
RHANNU

Ydych chi’n ofalwr di-dâl? Gweithio mewn proffesiwn gofalu? Ydych chi eisiau gwybod mwy neu dim ond dangos eich cefnogaeth?

Y Diwrnod Hawliau Gofalwyr hwn, ymunwch â ni i ddathlu arwyr di-glod ein cymuned.

Ddydd Gwener 21 Tachwedd, bydd Tŷ Pawb yn cynnal cynhadledd Diwrnod Hawliau Gofalwyr pwerus ac ysbrydoledig, gan ddod â gweithwyr proffesiynol, gofalwyr di-dâl a lleisiau cymunedol ynghyd o dan y thema: Cydnabod, Cefnogi a Grymuso Gofalwyr.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir rhwng 10am a 12.30pm, yn tynnu sylw at gyfraniadau hanfodol gofalwyr di-dâl ac yn darparu arweiniad ymarferol ar gael mynediad at gymorth a gwybod eu hawliau.

Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i chi glywed gan bobl sy’n gallu rhannu gwybodaeth am gymorth ariannol ac am helpu i ymdopi â salwch fel dementia. Byddwch hefyd yn gallu cwrdd â gofalwyr ifanc a chlywed straeon pobl eraill. Dyma restr lawn o’r hyn y byddwch yn clywed amdano ar y diwrnod:

Gair o groeso
Bydd Alison Reeve, Uwch Bennaeth Gwasanaeth / Prif Swyddog Dros Dro (Oedolion), Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Wrecsam, yn agor y digwyddiad gyda theyrnged i ymroddiad a gwytnwch gofalwyr ledled y rhanbarth.

Deall budd-daliadau gofalwyr
Bydd tîm hawliau lles Cyngor Wrecsam yn egluro budd-daliadau allweddol gan gynnwys Lwfans Gofalwr, Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol, a gostyngiadau’r Dreth Gyngor – gan sicrhau bod gofalwyr yn gwybod sut i wneud y mwyaf o’u hawliadau.

Profiad bywyd: gofalwyr ifanc a rhieni sy’n ofalwyr
Bydd Lisa a Maisie o Ofalwyr Ifanc WCD yn rhannu eu teithiau personol, gan dynnu sylw at hawliau gofalwyr ifanc ac eirioli dros fwy o gydnabyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau gofal iechyd.

Lleisiau gofalwyr di-dâl
Bydd y grŵp atgofion yn cyflwyno casgliad teimladwy o straeon gan ofalwyr di-dâl – partneriaid, brodyr a chwiorydd, a ffrindiau – sy’n archwilio effaith emosiynol a chorfforol gofalu, a’r ffyrdd creadigol y mae gofalwyr yn adeiladu gwytnwch.

Gwneud i’r niferoedd gyfrif
Bydd Sarah Bartlett (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol) a Janine Edwards (Prosiect Asesiad Anghenion y Boblogaeth) yn dadansoddi’r data diweddaraf am ofalwyr yng ngogledd Cymru, gan ddatgelu tueddiadau a gwahodd mynychwyr i gyfrannu eu profiadau bywyd at asesiadau yn y dyfodol.

Asesiadau anghenion gofalwyr a hawliau gofalwyr
Bydd NEWCIS yn darparu trosolwg hanfodol o asesiadau gofalwyr a hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl.

Cefnogi dementia a cholli cof
Bydd tîm Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru yn rhoi trosolwg o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, gan gynnwys eiriolaeth, cymorth budd-daliadau, a chymorth wrth ddefnyddio ysbyty.

Sylwadau i gloi
Bydd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, yn dirwyn y digwyddiad i ben gyda myfyrdodau ar bwysigrwydd cefnogaeth a chydnabyddiaeth barhaus i ofalwyr.

Dywedodd Rob Walsh, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Blant, “Yn aml, mae gan ofalwyr ifanc lawer mwy o gyfrifoldebau na’u cyfoedion. O ganlyniad, maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth a’n parch. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, byddwn yn pwysleisio ein hymrwymiad i gydnabod eu hanghenion unigryw, cefnogi eu lles, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn glir ar draws ein cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion, “Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.  Mae eu hymroddiad yn aml heb ei weld, ond mae eu heffaith yn ddwys. Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, rydym yn sefyll gyda nhw, ac wedi ymrwymo i gydnabod eu cyfraniadau, cefnogi eu lles, a’u grymuso gyda’r hawliau a’r adnoddau maen nhw’n eu haeddu.”

Mae eich tocyn am ddim ar gael nawr ar Eventbrite.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ambition North Wales Logo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i Gymeradwyo – Carreg Filltir ar gyfer Cysylltedd Cynaliadwy
Erthygl nesaf Wrecsam yn Cyhoeddi ei Gais am Ddinas Diwylliant Y DU 2029 Wrecsam yn Cyhoeddi ei Gais am Ddinas Diwylliant Y DU 2029

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English