Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn berchennog ar ddarn bach o Hanes Wrecsam – Ci Acton
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Byddwch yn berchennog ar ddarn bach o Hanes Wrecsam – Ci Acton
ArallPobl a lle

Byddwch yn berchennog ar ddarn bach o Hanes Wrecsam – Ci Acton

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 27, 2017 3:37 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Byddwch yn berchennog ar ddarn bach o Hanes Wrecsam – Ci Acton
RHANNU

Mae cyfle i chi ferchen ar eich darn bach o hanes Wrecsam eich hun ar ffurf y Ci Acton sydd wedi ei greu yn defnyddio technoleg newydd 3D diolch i beirianwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Cafodd y ci 197 mlwydd oed, sydd bellach yn ymgartrefu yn Amgueddfa Wrecsam, ei sganio gan Olivier Durieux ac Arfon Hughes. Sganiwyd 20 miliwn o rannau gwahanol o’r arteffact er mwyn creu modelau hyfryd o’r ci.

Cafodd y pedwar ci eu cerfio gan y saer coed lleol, James Edwards yn 1820 a buont yn sefyll yn edrych dros borth Ystâd hanesyddol Acton.

“Tirnod eiconig yn Wrecsam”

Dywedodd Karen Harris, o Amgueddfa ac Archifau Wrecsam: “Rydym wedi bod yn archwilio ffyrdd o ddod â rhai o wrthrychau’r amgueddfa i’r unfed ganrif ar hugain ac oherwydd bod y ci yn gymaint o dirnod yn Wrecsam roeddem arnom ni eisiau dweud wrth fwy o bobl amdano.”

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Bydd y ci gwreiddiol yn dal y tu ôl i wydr yn Amgueddfa Wrecsam, ond, o ganlyniad i’r prosiect technoleg 3D newydd anhygoel, rydym nawr wedi gallu gwneud modelau ohono i werthu yn siop yr amgueddfa a chynhyrchu model mwy i’w ddefnyddio i addysgu grwpiau sy’n ymweld o ysgolion.

£14.99 yn unig yw cost pob ci neu dau am £25.00 ac maent ar gael mewn 4 gorffeniad gwahanol, arian, aur, efydd a ferdigris.
Cysylltwch ag Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw ar 01978 297460 neu anfonwch neges e-bost at museum@wrexham.gov.uk

Plas Acton oedd un o’r tai pwysicaf yn Wrecsam, ac roedd yn gartref i’r enwog a’r bondigrybwyll ‘Hanging Judge Jeffreys’.
Enwyd y porth i’r tŷ yn ‘The Dogs’ gan y bobl leol ac yn ‘Four Dogs’ yn ddiweddarach wrth i’r milgwn ddod yn symbol o’r dref.

Cynhyrchwyd copïau o’r cŵn ac maent yn dal i warchod mynedfa ystâd Parc Acton hyd heddiw. Mae’r rhain yn gofebau i gofio rhan bwysig o hunaniaeth a threftadaeth leol Wrecsam.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Trawsnewid Tŵr Gogleddol Tŷ Pawb Trawsnewid Tŵr Gogleddol Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Mae cyfleuster cymunedol arall wedi'i adnewyddu diolch i'n prosiect gwella tai.... Mae cyfleuster cymunedol arall wedi’i adnewyddu diolch i’n prosiect gwella tai….

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English