Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall

Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 12, 2026 1:36 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Llay coal tip in Wrexham
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn dros £1.3 miliwn gan Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru i gyflawni gwaith gwella diogelwch ar domenni glo segur yn y fwrdeistref sirol dros y tair blynedd nesaf.

Mae Wrecsam yn ymfalchïo yn ei chefndir mwyngloddio, sydd yn y gorffennol wedi darparu miloedd o swyddi yn y gymuned leol.

Fodd bynnag, er i’r mwynglawdd olaf gau ym 1986, mae’r fwrdeistref sirol wedi cael ei gadael gydag etifeddiaeth hirdymor ar ffurf llawer iawn o sborion mwyngloddio.

Mae tomenni glo segur yn her fawr i’r cyngor, a bydd y cyllid yn darparu adnoddau ychwanegol i hwyluso asesu pellach a chyflawni gwaith cynnal a chadw diogelwch ar domenni glo segur.

Mae’r gwaith yn cynnwys gwelliannau draenio, asesiadau sefydlogrwydd llethrau a gwaith adfer cysylltiedig.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r gwaith adfer sy’n gysylltiedig yn faich sylweddol a hirdymor ar adnoddau’r cyngor, felly mae’n fuddiol iawn derbyn y cyllid ychwanegol hwn.

“Rwyf wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd am gyllid er mwyn bwrw ymlaen â gwaith sy’n gysylltiedig â Banc Glofa’r Bers a Thomen Wilderness Gresffordd. Felly, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ddyfarnu dros £1.3 miliwn i’r awdurdod, fydd yn mynd tuag at hwyluso’r gwaith sydd ei angen ar y safleoedd hynny ac ar safleoedd categori C mewn mannau eraill.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Ni ddylid tanamcangyfrif y bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd a’r amgylchedd sy’n gysylltiedig â thomenni glo mawr.

“Mae’r cyllid gwerthfawr hwn gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr a bydd yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n dod gyda’n gorffennol diwydiannol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham 12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Erthygl nesaf Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham. Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English