Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cariad Heb Ffiniau: Taith Kate a Lisa fel Gofalwyr Maeth LHDTC+
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cariad Heb Ffiniau: Taith Kate a Lisa fel Gofalwyr Maeth LHDTC+
Pobl a lleY cyngor

Cariad Heb Ffiniau: Taith Kate a Lisa fel Gofalwyr Maeth LHDTC+

Diweddarwyd diwethaf: 2023/06/20 at 3:43 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cariad Heb Ffiniau: Taith Kate a Lisa fel Gofalwyr Maeth LHDTC+
RHANNU

Pan nad oes ffiniau i gariad, mae ganddo’r pŵer i greu rhywbeth gwirioneddol brydferth. Dyma’n union beth mae Kate a Lisa, cwpl LGBTQ ysbrydoledig, wedi’i gyflawni trwy eu taith anhygoel fel gofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru. Yn eu hangerdd am amrywiaeth ac ymroddiad cyson, maent wedi creu teulu cariadus sy’n herio normau ac yn lledaenu empathi.

Yn eu geiriau eu hunain, dyma eu stori hyfryd nhw…

“Dwy flynedd yn ôl, daeth ein plant maeth i’n bywydau, ac maen nhw wedi dod yn rhan barhaol o’n teulu. Rydym yn teimlo’n hynod o ffodus i’w cael ac i allu darparu cartref cariadus iddynt. Mae gennym hefyd ein dau blentyn biolegol, felly mae ein cartref bob amser yn fwrlwm o weithgaredd. Mae wedi dod yn normal newydd i ni, ac ni fyddwn yn newid unrhyw beth.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

“Mae gwylio pob un o’n plant yn tyfu ac yn magu hyder wedi bod yn galonogol iawn. Mae’r berthynas y maent yn ei rannu a’r caredigrwydd y maent yn ei ddangos tuag at ei gilydd y tu hwnt i eiriau.

“Mae ein plant wedi dysgu cymaint i ni am nerth a harddwch llawenydd syml. Mae ein plant maeth, yn arbennig, wedi dysgu sut i fwynhau chwarae ac archwilio’r byd o’u cwmpas. Wnawn ni byth anghofio’r tro cyntaf iddyn nhw fynd i’r traeth. Roedd arnynt ofn y tywod yn crafu eu coesau, ond yr wythnos diwethaf, roeddent yn rhedeg i mewn i’r môr yn eu dillad, yn chwerthin gyda hyfrydwch pur. Roedd yn foment mor arbennig i ni.

“Drwy gydol y daith hon, rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan ein tîm gwaith cymdeithasol. Maen nhw wedi bod yno i ni bob cam o’r ffordd. Rydym hefyd wedi dadlau’n angerddol dros ein plant yn eu hysgolion, gan sicrhau eu bod yn cael y gofal a’r addysg orau bosibl. Rydym wedi mynychu nifer o gyrsiau i roi’r sgiliau angenrheidiol i ni’n hunain i ddiwallu eu hanghenion arbennig.

“Mae maethu wedi bod yn dipyn o daith hyd yma, gyda nifer fawr o uchafbwyntiau yn ogystal â chyfnodau mwy heriol. Mae wedi bod yn brofiad hollol anhygoel, er iddo droi allan i fod yn wahanol i’r hyn yr oeddem wedi’i ddychmygu i ddechrau. Rydyn ni wedi gorfod dysgu cymaint ar hyd y ffordd, ac mae wedi bod yn agoriad llygad go iawn.

“Rydyn ni’n llawn cyffro wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol a pharhau i gefnogi ein plant ar eu llwybrau unigryw. Mae’r teulu amrywiol a chariadus hwn rydyn ni wedi’i greu yn bopeth i ni. Rydym mor ddiolchgar am y daith hon.”

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam Ymunwch â ni ar 24 Mehefin 2023 ar gyfer Gorymdaith Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam
Erthygl nesaf #trugareddarwaith wrth i Wythnos Ffoaduriaid ddathlu 25 mlynedd #trugareddarwaith wrth i Wythnos Ffoaduriaid ddathlu 25 mlynedd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 17, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English