Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall
Dog
Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Diweddarwyd diwethaf: 2025/08/20 at 4:17 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
RHANNU

Wrth i Ŵyl y Banc agosáu, bydd newidiadau i gasgliadau. Ochr yn ochr â hyn, mae gweithredu diwydiannol wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 30 Awst, sy’n golygu bod angen i ni roi mesurau ar waith i darfu cyn lleied â phosib ar gwsmeriaid. 

Fel y Gŵyl y Banc diwethaf, ni fyddwn yn cynnal unrhyw gasgliadau ar ddydd Llun 25 Awst, a bydd casgliadau’n symud o ddiwrnod. Os yw eich diwrnod casglu ar ddydd Llun, caiff eich gwastraff ei gasglu ar ddydd Mawrth. Os yw eich diwrnod casglu ar ddydd Mawrth, caiff eich gwastraff ei gasglu ar ddydd Mercher. Bydd y patrwm hwn yn parhau am weddill yr wythnos.

Os yw eich diwrnod casglu arferol ar ddydd Gwener, ac mae disgwyl i’ch gwastraff cyffredinol gael ei gasglu ar 29 Awst, rhowch eich gwastraff cyffredinol a’ch ailgylchu allan ddydd Gwener.  Byddwn yn casglu eich gwastraff naill ai ar y dydd Gwener neu ar y dydd Sadwrn, ond mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi eich bin gwastraff cyffredinol a’ch ailgylchu allan yn brydlon ar y dydd Gwener. Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff ddydd Sadwrn oherwydd y gweithredu diwydiannol, ni fyddwn yn gallu casglu’r gwastraff hwn tan eich casgliad nesaf a drefnwyd.

Os oes disgwyl i’ch gwastraff gardd gael ei gasglu ar ddydd Gwener 29 Awst, oherwydd y gweithredu diwydiannol, ni allwn warantu y byddwn yn ei gasglu. Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff gardd, byddwn yn ceisio darparu casgliad ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn i unrhyw un a gollwyd.

Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

Y datganiad diweddaraf ar Streiciau Unite gan Brif Weithredwr Dros Dro Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones:

Mae Cyngor Wrecsam yn siomedig bod Unite yn symud ymlaen â’r gweithredu hwn. Mae gwasanaeth Strydlun yn parhau i fod yn un pwysig sy’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd, a thros y blynyddoedd mae cymorth sylweddol wedi’i roi ar waith i ddatblygu’r rhan hon o’r gweithlu. Yn 2025, o drafodaethau a chytundeb â’r undeb llafur, cafodd y mwyafrif o weithredwyr Strydlun 1 gyfle i symud i rôl gweithredwr Strydlun 2, a oedd yn golygu cynnydd yn eu cyflog o £1,265 y flwyddyn, ynghyd â darpariaeth hyfforddiant ychwanegol. Dros y pedair blynedd diwethaf mae cynlluniau datblygu ac olyniaeth wedi’u cyflwyno ar gyfer y rheini sy’n dymuno dyrchafu i rôl math gweithiwr mewn gofal, trwy greu rôl Gweithredwr Strydlun 3, i gefnogi dilyniant gyrfa ymysg y gweithlu.

Oherwydd y sefyllfa ariannol anodd yr ydym ni yn Wrecsam, a’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn parhau i’w hwynebu, rydym yn edrych ar holl feysydd y Cyngor i weld ble y gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd. Mae hwn yn un o lawer o newidiadau sydd wedi’u rhoi ar waith yn ystod y 12 mis diwethaf i gyflawni effeithlonrwydd a chynnal sefyllfa ariannol gytbwys i’r Cyngor, ynghyd â diogelu gwasanaethau i’r cyhoedd . Ymgynghorwyd ar y syniad o weithio ar ddydd Sadwrn yn lle ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, a dim ond 20 ymateb a gafwyd, o weithlu o 245, a oedd yn anghytuno â’r newidiadau. Bydd yr arbediad penodol hwn yn lleihau ein costau presennol o £100,000, ac mae wedi mynd trwy brosesau a chylchoedd pwyllgorau a phrosesau ymgynghori’r Cyngor. 

Er eglurder, ynghylch y cyllid ychwanegol gwerth £3,808,252.13 yr adroddwyd amdano, ar gyfer gwasanaethau amgylcheddol. Cafodd y cyllid hwn ei neilltuo i dalu costau rheoli gwastraff pecynwaith, a gall gynnwys uwchraddio neu ehangu cyfleusterau, didoli a phrosesu gwastraff pecynwaith, a rhoi technolegau ar waith sy’n gwella cyfraddau adfer deunyddiau a lleihau halogiad.   Rhaid i bob Awdurdod Lleol allu dangos bod y grant wedi’i fuddsoddi mewn gwella cyfraddau ailgylchu. Heb dystiolaeth glir o hyn, mae’n debygol y bydd sancsiynau ariannol yn cael eu cymhwyso yn erbyn dyraniadau blynyddol y cyllid hwnnw yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r gweithlu hwn, ac i ddarparu’r gwasanaeth yn fewnol i bobl Wrecsam. Rydym yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau i osgoi’r gweithredu hwn, ac yn gobeithio y gellir dod o hyd i ddatrysiad, ac y gellir cael perthynas bartneriaeth gadarnhaol unwaith eto â’r Undebau Llafur.

Rhannu
Erthygl flaenorol funding Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Awst 19, 2025
Hedgehog
Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?
Arall Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan
Y cyngor

Cartrefi Cynaliadwy Cyntaf Cyngor Wrecsam yn cael eu cwblhau yn Heol Offa, Tre Ioan

Awst 13, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 12, 2025
Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English