Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pêl-droed dan Gerdded – cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth’ 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pêl-droed dan Gerdded – cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth’ 
Pobl a lleY cyngor

Pêl-droed dan Gerdded – cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth’ 

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 24, 2026 11:29 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Pêl-droed dan Gerdded - cam tuag at drawsnewid iechyd sydd wedi bod yn ‘achubiaeth' 
RHANNU

Erthygl gwadd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Tim Pattenden wedi camu o’r ystlys i ddod yn Seren y Gêm, gyda chefnogaeth clwb Pêl-droed dan Gerdded Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Tîm Gwella Iechyd (HIT) y Bwrdd Iechyd wedi partneru gyda Chynllun Cenedlaethol i Gyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff (NERS) i gynnal sesiynau yn Stadiwm Queensway, Wrecsam ar gyfer y rhai dros 40 oed sydd â’r angen mwyaf.

Cafodd Tim ei gyfeirio at NERS gan ei feddyg teulu oherwydd bod ganddo Golesterol Uchel, Diabetes Math 2 a Gorbwysedd ac ymunodd â’r tîm Pêl-droed dan Gerdded pan ddaeth i wybod am y bartneriaeth. Erbyn hyn, nid yw Tim  yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar gyfer y clefydau anhrosglwyddadwy, diolch i’r ymarfer corff a’r gwelliannau iechyd y mae wedi’u gweld.

“Rwy’n hapus iawn gyda’r gefnogaeth rwyf wedi’i derbyn gan Alex o NERS a Robin o HIT, yn ogystal â phawb arall yn y grŵp,” meddai Tim. “Dydw i ddim yn medru disgrifio pa mor hapus ydw i. Mae wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd.

“Mae Alex a Robin mor groesawgar a chymwynasgar. Maen nhw’n gwneud i bopeth ymddangos yn bositif ac yn bosibl. Mae gen i fwy o egni. Rydw i wedi colli 2.5 stôn. Rydw i’n teimlo’n fwy gobeithiol o ran fy iechyd ac mae fy mhwysedd gwaed i lawr, mae’r colesterol yn normal, ac mae fy lefelau siwgr yn ddiogel unwaith eto.

“Rydw i hefyd yn teimlo’n fwy hyderus o ran fy iechyd, ac yn obeithiol y gall wella ymhellach. Rydw i wrth fy modd fy mod yn rhan o’r grŵp sy’n chwarae pêl-droed. Roeddwn i’n meddwl ar un adeg na fyddwn i byth yn teimlo cystal ag ydw i nawr.

“Mae’r rhaglen hon wedi bod yn achubiaeth. Dim ond y rhai sydd ei hangen ac yn dod yn rhan ohoni sy’n deall ei heffaith mewn gwirionedd. Ar un adeg, roeddwn i wir yn teimlo fel petawn i’n marw’n araf. Mae NERS a’r bêl-droed dan gerdded wedi trawsnewid hynny.”

Yn ôl Robin Ranson, Uwch Ymarferydd Gwella Iechyd: “Mae Tim yn seren lwyr, a dylem ganmol ei waith caled a’i ymdrech i wneud hyn er lles ei iechyd corfforol a meddyliol. Roedd Alex yn arfer chwarae pêl-droed pan oedd yn iau, ac mae wedi mwynhau ymuno â’r clwb yn fawr iawn.

“Rydym wedi cychwyn y cynllun ers 12 mlynedd, ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n dymuno gwneud i ymuno â ni. Mae gennym bobl sydd wedi bod yn dod ers y dechrau, ac mae wedi helpu iechyd nifer fawr o bobl yn fawr iawn.”

Dywed Alex Davies, Gweithiwr Proffesiynol Cyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae wedi bod yn bleser croesawu Tim i’r grŵp a gweld y trawsnewidiad yn ei iechyd corfforol a meddyliol. Rydw i a Robin mor falch bod ein sesiynau’n parhau i helpu pobl i gyflawni eu nodau ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd yn dymuno dod yn fwy actif trwy bêl-droed i ymuno â ni.”

Mae’r Clwb Pêl-droed dan Gerdded ar gyfer pobl dros 40 oed ac fe’i cynhelir ar ddydd Llun a dydd Gwener o 10am i 11am. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd gennym, felly mae angen archebu lle. Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Robin a’r Tîm Gwella Iechyd ar 03000 859625, neu Alex a’r Cynllun Cenedlaethol Cyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff ar 01978 355826.

Gweler hefyd ein tudalen Facebook, Tîm Gwella Iechyd BIPBC, am ragor o wybodaeth am y clwb a beth arall y mae’r Tîm Gwella Iechyd yn ei gynnig.

Gall pobl hunangyfeirio at NERS trwy’r dudalen we hon.

Rhannu
Erthygl flaenorol Pentwr bach o geiniogau arian ar ben nodyn £10 wedi'i blygu wrth ymyl cyfrifiannell ar ddesg Cymorth ar gael i denantiaid y Cyngor gan ein Swyddogion Cynhwysiant Ariannol
Erthygl nesaf Prifysgol Wrecsam yn dathlu carreg filltir ymchwil fawr Prifysgol Wrecsam yn dathlu carreg filltir ymchwil fawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English