Roedd rhaid i ni weithio’n galed yn 2005 er mwyn gwneud yn siŵr bod ein hadeiladau, ein siopau, ein ysgolion a’n lleoliadau busnes yn hygyrch i bobl anabl. Roedd hyn o ganlyniad i’r Ddeddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd a ddaeth i rym ac a ddylai fod wedi gwneud bywyd ychydig yn haws i bobl anabl.
Ydy hynny wedi gweithio? Wel, bu’r Ymgyrchydd Hawliau Anabledd Damian Plant o Landudno ar ymweliad â Wrecsam yn ddiweddar, ac wedi’r ymweliad fe gysylltodd â’r Maer, y Cynghorydd John Pritchard, gyda’i ganfyddiadau ac ymddengys ein bod yn gwneud yn iawn.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
“Mynediad Cadeiriau Olwyn”
Un o’r llefydd cyntaf y bu i Damian geisio mynd i mewn iddo oedd Wetherspoon ar y Stryt Fawr. Ar y dechrau roedd yn ymddangos y byddai’r grisiau i’r bar yn broblem o ran mynediad i gadeiriau olwyn. Ar ymweliad pellach gyda’r Maer, dangoswyd bod modd cael mynediad i gadeiriau olwyn gan fod ramp cludadwy ar gael, a chloch i holi am gymorth. Nododd staff bod ganddynt ap ar-lein a gwasanaeth bwrdd er mwyn peidio gorfod ciwio wrth y bar.
Dywedodd llefarydd ar ran Wetherspoon, Eddie Gershon: “Rydym am i’n tafarndai fod ar agor ac yn hygyrch i bawb. Rydym yn falch o’r ffaith bod ein tafarndai yn cynnig adnoddau gwych i bobl sydd ag anableddau, a’i bod yn hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad iddynt.”
“Codwyd ymwybyddiaeth staff”
Gall lifftiau weithiau achosi problemau i ddefnyddwyr anabl ac roedd bocsys yn rhwystro mynediad yn Nôl yr Eryrod. Wedi galwad sydyn i reolwr Dôl yr Eryrod, Kevin Critchley, datryswyd hynny ac roedd staff yn fwy na bodlon i sicrhau bod y bocsys yn cael eu symud, a chodwyd ymwybyddiaeth staff.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd John Pritchard: “Mae’n dda gwybod ein bod yma yn Wrecsam ar y trywydd iawn o ran gwneud bywyd yn haws i’n hymwelwyr anabl sy’n dod i ganol y dref. Nid yw’n berffaith, a dangosodd ymweliad diweddar Damian pa mor hawdd yw datrys pethau a sicrhau mynediad haws. Allwn ni byth gydymffurfio 100% oherwydd natur deddfwriaeth adeiladau rhestredig ond gallwn geisio goresgyn rhwystrau pan fyddant yn cael eu dangos i ni.”
“Mae pethau’n gwella”
Meddai Damian ar ôl ei ymweliad: “Roedd yn dda gweld sut mae pethau yn gwella i bobl anabl ac mae Wrecsam wedi gwneud yn dda iawn. Fodd bynnag mae llawer o lefydd sy’n amhosib neu’n anodd i bobl anabl eu cyrraedd a byddaf yn parhau i weithio drwy’r ardal er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r problemau rydym yn eu hwynebu yn ddyddiol. Rwy’n hefyd yn ddiolchgar i’r Maer am yr amser â gymrodd i gyfarfod gydag i, a hefyd am ei bryder diffuant dros y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd. Diolch hefyd i’r staff â gwnaethpwyd hyn yn bosib.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.