Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ….
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ….
Pobl a lleY cyngor

Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ….

Diweddarwyd diwethaf: 2018/03/13 at 6:26 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ....
RHANNU

Mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio yn cael eu cynnal yr wythnos hon i bobl sydd am gael gwybod mwy am y cynllun tai Gofal Ychwanegol newydd ar Ffordd Grosvenor.

Cynnwys
Cyfle i ymgeisioOpsiwn tai newydd ar gyfer y dref

Dyluniwyd y cynllun gofal ychwanegol ym Maes y Derwen, gyda gwerth o £10.5 miliwn i bobl lleol dros 60 oed sy’n dymuno byw’n annibynnol mewn cartref gyda thawelwch meddwl o fynediad 24 awr i gefnogaeth gofal.

Mae’r cynllun yn ddatblygiad partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Tŷ Glas, rhan o’r Grŵp dai Pennaf, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y rhandai newydd i’w hunain neu i aelod o’r teulu.

Gallwch alw heibio i gwrdd â’r tîm sy’n cynnal digwyddiadau gwybodaeth yn Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw yn ddyddiol rhwng 13 ac 17 Mawrth, a bydd cyfle hefyd i drefnu ymweliad i’r rhandy arddangos newydd yn y cynllun.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ....
Dewch i ddarganfod mwy am gynllun tai Gofal Ychwanegol newydd Wrecsam yr wythnos hon ....

Cyfle i ymgeisio

Meddai Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Y Cyng. Joan Lowe: “Mae’r cynllun yn ddewis gwych i bobl gyda gofalwr neu sydd angen cefnogaeth, ond eto yn dymuno cadw annibyniaeth o fyw yn eu cartref eu hunain, ac mae’n newyddion da y bydd y datblygiad ar agor yr haf hwn,”

Ychwanegodd Carol Thomas, Rheolwr Gofal Ychwanegol ar gyfer y Grŵp Tai Pennaf:
“Rydym eisoes wedi derbyn sawl cais gan bobl sydd eisiau byw yng Nghynllun Maes y Dderwen, ond mae cyfle i ymgeisio o hyd, yn amodol ar feini prawf penodol, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod mwy o ymgeiswyr newydd posib neu eu teuluoedd yn y digwyddiadau gwybodaeth.”

Ariennir Maes y Dderwen ar y cyd gyda Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a nawdd Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid mewn partneriaeth gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghyd â chyllid preifat a drefnwyd gan Grŵp Tai Pennaf.

Opsiwn tai newydd ar gyfer y dref

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, y Cynghorydd David Griffiths: “Bydd y cynllun hwn yn cynnig dewis tai newydd hanfodol yn y dref a fydd yn darparu ar gyfer pobl ag ystod eang o anghenion gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd angen ychydig oriau o gefnogaeth yr wythnos i rai sydd ag anghenion uwch a allai fod yn ystyried symud i gartref gofal preswyl. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y digwyddiadau dydd agored i weld a allent elwa o’r math hwn o lety.”

Meddai’r Aelod Lleol dros Grosvenor, y Cyng. Marc Jones: “Mae’n dda gweld bod yr adeilad bellach yn agosáu at gwblhau, yn enwedig i’r rhai ohonom sy’n byw yn lleol ac wedi gweld y safle allweddol hwn yn y dref yn cael ei drawsnewid yn gynllun tai modern modern iawn. Rwy’n gobeithio y bydd yr opsiynau byw annibynnol sydd ar gael yma yn dod yn opsiwn tai defnyddiol iawn yn y rhan hon o’r dref ac y bydd y trigolion newydd yn dod yn rhan o’r gymuned leol.”

  • Bydd y sesiynau gwybodaeth galw heibio yn Amgueddfa Wrecsam yn cael eu cynnal rhwng 10.00am–4pm ar 14, 15 ac 16 Mawrth, a rhwng 11.30am–2.30pm ddydd Sadwrn 17 Mawrth
  • Bydd unrhyw nad ydynt yn gallu mynd ond â diddordeb mewn rhagor o wybodaeth yn gallu ffonio 0800 183 5757 neu e-bost enquiries@tyglas.co.uk

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Decarbonisation Meysydd parcio gwefru ar y ffordd
Erthygl nesaf Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach? Cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd? Lle ydyn ni arni bellach?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English