Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwahoddiad i ysgolion cynradd Wrecsam ymuno â chystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwahoddiad i ysgolion cynradd Wrecsam ymuno â chystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Gwahoddiad i ysgolion cynradd Wrecsam ymuno â chystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 30, 2026 3:32 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Gwahoddiad i ysgolion cynradd Wrecsam ymuno â chystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn galw ar blant lleol i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth ‘Dylunio Arwydd’ i hyrwyddo atal baw cŵn.

Anfonwyd y gystadleuaeth i bob ysgol gynradd yn y fwrdeistref, gan ofyn i blant greu dyluniadau lliwgar i atgoffa pawb i godi baw eu cŵn a chadw ein mannau yn lân ac yn groesawgar.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Amgylcheddol: “Mae baw cŵn yn broblem sy’n effeithio ar bawb yn ein cymunedau. Mae’r gystadleuaeth hon yn ffordd wych o annog plant i rannu neges bwysig mewn modd creadigol a chadarnhaol. Rydym yn gobeithio y bydd eu dyluniadau yn helpu i atgoffa perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a chadw Wrecsam yn lân i bawb.”

Bydd yr enillwyr lwcus yn cael gwahoddiad i gwrdd â’r maer a bydd eu dyluniadau’n cael eu troi’n arwyddion go iawn, a fydd yn cael eu gosod o amgylch ein cymunedau lleol.

Dywedodd y Maer Tina Mannering: “Mae hwn yn gyfle gwych i blant wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau trwy greadigrwydd. Edrychaf ymlaen at gwrdd â’r enillwyr a’u llongyfarch ar gael eu dyluniadau wedi’u troi’n arwyddion a fydd yn helpu i hyrwyddo mannau glanach a mwy croesawgar ledled y fwrdeistref.”

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Gwener 17 Ebrill 2026.

Gellir dychwelyd posteri a thaflenni cais wedi’u cwblhau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Ffordd yr Abaty, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW. Gellir cyflwyno ceisiadau i’r dderbynfa, eu rhoi yn y blwch llythyrau neu eu hanfon drwy’r post. Fel arall, gellir e-bostio copïau wedi’u sganio i EnvironmentalAdmin@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Gwasanaeth gofal dydd gwell yn rhoi bywyd newydd i ganolfan adnoddau
Erthygl nesaf Myfyrwyr Ysgol Maelor ar y rhestr fer ar gyfer gwobr gelf ranbarthol fawreddog Myfyrwyr Ysgol Maelor ar y rhestr fer ar gyfer gwobr gelf ranbarthol fawreddog

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English