I ddathlu 50 mlynedd yn yr adeilad, bydd Llyfrgell Wrecsam yn rhoi cyfle i bawb ddod i gael rhywfaint o hwyl.
Yn ystod mis Ionawr 2023, union 50 mlynedd i’r mis ers i Lyfrgell Wrecsam symud i’w hadeilad presennol, mae gwahoddiad i chi ddod draw i ymuno â’r hwyl mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai i ddathlu. Agorwch eich dyddiadur a chymryd golwg ar y rhestr isod:
13 Ionawr
2–3.30pm
Gweithdy plygu llyfrau
Dewch i ddysgu’r grefft o blygu llyfrau a chreu eich cerflun hyfryd eich hun o lyfr i fynd ag o adref gyda chi.
Am ddim
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
21 Ionawr
Sesiynau awr o 9.30am, 11am, 1pm a 2.30pm
Gwneud a mynd â Lego yn Llyfrgell Wrecsam
Sesiynau adeiladu Lego i’r teulu gyda Steve Guinness, yr ymgynghorydd briciau a LEGOMASTER Channel 4. Mae’n hanfodol archebu lle gan eu bod yn brin. Ffoniwch Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090 i drefnu.
AM DDIM
26 Ionawr
2–3pm
Stori a chân efo Arth Dechrau Da
Dathlwch ein Pen-blwydd yn 50 efo stori a chân arbennig efo picnic tedi bêrs. Dewch â’ch tedi o adref ac fe wnawn ni ddod ag Arth Dechrau Da.
Am ddim
27 Ionawr
2–3pm
Stori a chân efo Arth Dechrau Da (Saesneg)
Dathlwch ein Pen-blwydd yn 50 efo stori a chân arbennig efo picnic tedi bêrs. Dewch â’ch tedi o adref ac fe wnawn ni ddod ag Arth Dechrau Da.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI