Mae #WythnosGweithreduarWastraffBwyd yn rhedeg o 18-24 Mawrth yn ystod yr ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha, a’r thema eleni yw ‘dewis beth fyddwch yn ei ddefnyddio’, sy’n annog pawb i brynu eu ffrwythau a’i llysiau yn rhydd.
Mae llawer o fanteision gwych i brynu ffrwythau a llysiau rhydd! Mae prynu’n rhydd yn gostwng gwastraff – mae ymchwil WRAP wedi dangos pe byddai’r holl afalau, bananas a thatws yn cael eu gwerthu yn rhydd yn y DU, gallem arbed 60,000 tunnell o wastraff bwyd trwy alluogi pobl i brynu’n agosach at eu hanghenion.
Rydym wedi gweld jîns gwast uchel, ffrinj llenni, a nifer o bethau eraill yn dychwelyd, nawr beth am helpu ffrwythau a llysiau rhydd i ddychwelyd – y ffordd wreiddiol a gorau o brynu ein cynnyrch.
Felly, os ydych yn siopa am swper heno, dewch o hyd i’r tatws trwy’u crwyn cywir ar gyfer eich teulu. Paratoi crymbl afal? Dewiswch yr union nifer o afalau rydych eu hangen. Siopwch fel hyn a byddwch yn arbed bwyd a phlastig rhag mynd i wastraff.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn cefnogi ymgyrch Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd ac rydym yn gofyn i’n trigolion feddwl am y newidiadau bach y gallant eu gwneud a fydd yn helpu i ostwng eu gwastraff bwyd. Mae gwneud y mwyaf o’r bwyd rydych yn ei brynu yn gwneud gwahaniaeth mawr, a gall helpu i arbed eich arian yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd.”
10 awgrym defnyddiol!
Ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Wastraffu Bwyd mae Love Food Hate Waste wedi llunio rhestr o 10 peth y gallwch chi ei wneud i atal gwastraff bwyd rhag bwydo newid hinsawdd:
1. Dyddiadau difyr! Mae’r dyddiad defnyddio neu’r ‘use by date’ yn ymwneud â diogelwch – ddylech chi ddim bwyta’r bwyd ar ôl y dyddiad yma (hyd yn oed os ydi o’n edrych neu’n arogli’n iawn). Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘best before’ yn ymwneud ag ansawdd – er na fydd y bwyd ar ei orau, mi fydd yn dal yn ddiogel i chi ei fwyta am beth amser i ddod.
2. Defnyddio pob tamaid. Ydych chi’n taflu crystiau a choesau brocoli i’r bin? Mae dros ddwy ran o dair o’r bwydydd rydym ni’n eu gwastraffu yn hollol fwytadwy, felly mae defnyddio pob rhan fwytadwy o’ch bwyd yn hanfodol. Beth am beidio â phlicio’r tatws pan fyddwch chi’n gwneud tatws stwnsh – mi fyddwch chi’n arbed amser hefyd!
3. Oerwch yr oergell. Mae cyfartaledd tymheredd oergelloedd y Deyrnas Unedig bron yn 7°C, ond mae bwydydd yn para’n hirach os ydych chi’n eu cadw nhw dan 5°C.
4. Prydau perffaith. Dwylo i fyny pwy sy’n gwneud gormod o reis neu basta? Mae’n hawdd iawn gwneud, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud yn siŵr nad ydych chi’n coginio gormod. Er enghraifft, mae mwg o reis sych yn ddigon i bedwar oedolyn.
5. Silff-lun. Os nad ydych chi’n rhy hoff o ‘sgwennu rhestrau siopa beth am dynnu llun o’ch oergell/silffoedd bwyd yn lle? Bydd hyn yn eich stopio chi rhag prynu pethau sydd gennych chi’n barod.
6. Synnwyr cyffredin. Bydd y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau yn para’n hirach yn yr oergell. Yr eithriadau allweddol ydi bananas a phinafal (cadwch y rhain ar y cownter), a nionod a thatws (cadwch y rhain mewn lle oer, tywyll a sych – fel cwpwrdd)!
7. Rhewi cyn y dyddiad defnyddio. Fe allwch chi rewi unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio, gan gynnwys cig, hyd at y dyddiad hwnnw. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydi’ch cynlluniau’n newid ar fyr rybudd – cyn i chi archebu tecawê ar frys cofiwch edrych yn yr oergell am unrhyw beth y medrwch chi ei rewi ar gyfer diwrnod arall.
8. Yr hambwrdd ciwbiau rhew – arwr y rhewgell. Gormod o lefrith, dim digon o amser? Tywalltwch y llefrith sydd gennych chi dros ben i mewn i’ch hambwrdd ciwbiau rhew a’i roi yn y rhewgell. Fe allwch chi ddefnyddio hambwrdd ciwbiau rhew i rewi perlysiau ffres hefyd. Torrwch nhw a rhowch nhw yn yr hambwrdd, gan ychwanegu ychydig o olew – bydd gennych chi wedyn ddognau hawdd i’w hychwanegu i’r badell pan fyddwch chi’n coginio nesaf.
9. Bara blasus. Mae bara yn rhewi’n dda. Rhowch eich torth dafellog yn y rhewgell a phan fydd arnoch chi angen bara fe allwch chi estyn tafell a’i thostio’n sydd o’r rhewgell. Awgrym bach arall: tapiwch eich torth ar y cownter cyn i chi ei rhewi fel nad ydi’r tafellau yn glynu at ei gilydd.
10. Gwrthrychau Rhewedig Anhysbys. Cyn i chi roi bwyd dros ben yn y rhewgell cofiwch labelu’r bag/cynhwysydd fel eich bod chi’n gwybod beth sydd ynddo a phryd y rhoddoch chi o yn y rhewgell.
Mae gwefan Love Food Hate Waste yn llawn ryseitiau blasus a hyd yn oed mwy o awgrymiadau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich bwyd.
Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?
Bydd Wych. Ailgylcha. – Dewch inni gael Cymru i rif 1! – Newyddion Cyngor Wrecsam