Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 14, 2025 11:35 am
Rhannu
Darllen 2 funud
homes and businesses
RHANNU

Gallwch chi gael hyd at £7,500 tuag at gost boeler neu system wresogi newydd sy’n fwy effeithlon a charbon isel.

Mae’r Cynllun Uwchraddio Boeleri (CUB) yn cefnogi datgarboneiddio cartrefi, ac adeiladau annomestig bach a chanolig yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu grantiau ymlaen llaw o hyd at £7,500 i annog perchnogion eiddo i ddisodli systemau gwresogi tanwydd ffosil presennol gyda systemau amgen carbon isel.

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, mae grantiau ar gyfer pympiau gwres o’r aer neu’r ddaear, neu foeler biomas.

Nod y cynllun hwn yw cymell a chynyddu’r defnydd o systemau gwresogi carbon isel gan hefyd gefnogi’r diwydiant cynyddol hwn, gan greu swyddi a lleihau costau gosod.

I wneud cais am y grant, bydd angen i chi ddewis gosodwr sydd wedi’i ardystio gan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (CAM) (sefydliad safonau i sicrhau ansawdd y gwaith), a fydd wedyn yn gwneud cais am y grant ar eich rhan ac yn didynnu gwerth y grant o’ch anfoneb.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd:  “Os ydych chi’n ystyried newid eich system wresogi bresennol sy’n cael ei phweru gan danwydd ffosil, byddwn yn eich annog i edrych ar yr opsiynau carbon isel hyn a manteisio ar y grantiau hyn. Mewn cartref sydd wedi’i inswleiddio’n dda, ar y cyd â systemau cynhyrchu ynni solar neu ynni gwyrdd arall, gallwch adennill y gost o osod dros gyfnod cymharol fyr a lleihau allyriadau carbon. Peidiwch â phoeni os ydych chi eisoes wedi cael cyllid ar wahân ar gyfer gwaith uwchraddio effeithlonrwydd ynni fel inswleiddio, drysau neu ffenestri; gallwch wneud cais am y grant hwn o hyd.”

Mae’r meini prawf llawn, y rhestr o osodwyr ardystiedig, y meini prawf cymhwysedd a mwy o fanylion am y broses ymgeisio ar gael ar dudalen y Cynllun Uwchraddio Boeleri ar wefan Llywodraeth y DU.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Weather alert - heavy rain Rhybudd tywydd – Storm Claudia
Erthygl nesaf canvass Mae’r canfasio blynyddol bron â dod i ben

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle
Hydref 12, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English