Mae’r newidiadau i arian papur a darnau punt yn y DU wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar gyda phobl yn chwilio am bapurau £5 a £10 newydd prin yn y gobaith o wneud rhagor o arian.
Yn ogystal, mae’r diwrnod pan fydd yr hen ddarn punt crwn wedi’i ddisodli’n llwyr gan y darn punt 12 ochr newydd yn agosáu.
Ond fyddech chi’n hoffi darganfod mwy am y darnau arian a ddefnyddiwyd yn y gorffennol?
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Os felly efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y diwrnod Niwmismateg fydd yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn, 28 Hydref.
Niwmismateg yw’r enw ar yr astudiaeth o ddarnau arian a bydd tîm o arbenigwyr yn traddodi cyfres o sgyrsiau ar ddarnau arian Rhufeinig, Canoloesol a Phrydeinig ôl 1660 yn y bore, gyda chyfle i gyfarfod yr arbenigwyr a gofyn eu barn ar unrhyw ddarnau arian sydd gennych chi yn y prynhawn.
Mae’r diwrnod yn rhan o’r prosiect ‘Yn Gudd yn y Gororau’ sy’n canolbwyntio ar y celc arian o’r 15fed ganrif a ddarganfuwyd ym mhentref Bronington.
Noddir y prosiect gan brosiect Hel Trysor: Hel Straeon Cronfa Treftadaeth y Loteri mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Bydd y diwrnod yn cychwyn gyda chyfres o gyflwyniadau o 11am tan yr egwyl cinio am 1.15, ac yn y prynhawn cynhelir sesiwn ‘Cyfarfod yr Arbenigwyr’ rhwng 1.45 a 3.30pm.
Bydd yr arbenigwyr yn cynnwys hanesydd y Bathdy Brenhinol, Chris Barker, arbenigwr ar arian Canoloesol, Carl Savage ac arbenigwyr ar arian Rhufeinig, Matthew Ball a Nick Wells.
Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim ond dylai unrhyw un a hoffai fynychu gysylltu ag Amgueddfa Wrecsam ymlaen llaw fel bod gan yr Amgueddfa ryw syniad o’r niferoedd.
Am ragor o fanylion ffoniwch Amgueddfa Wrecsam ar 01978 297460.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL