Mae eleni yn nodi 30 mlynedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
I ddathlu’r achlysur, mae Senedd yr Ifanc yn cynnal digwyddiad i arddangos ymrwymiad Wrecsam i’r CCUHP ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Plant, ddydd Mercher, 20 Tachwedd.
Mae’r digwyddiad wedi ei dargedu ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed ac mae am ddim.
Dyddiad: Dydd Mercher 20 Tachwedd
Lleoliad: Neuadd Goffa Wrecsam – Bodhyfryd, Wrecsam, LL12 7AG
Amser dechrau: 5:30pm
Amser gorffen: 8:30pm
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae digonedd o hwyl wedi ei drefnu yn ystod y digwyddiad, sydd wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-25 oed. Bydd bwth tynnu lluniau, gemau, dewin, cerddoriaeth fyw, ffynnon siocled a llawer mwy!
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Tîm Cyfranogi Wrecsam ar youngvoices@wrexham.gov.uk / 01978 317961
Beth yw’r CCUHP?
Mae holl waith Senedd yr Ifanc yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Maent yn canolbwyntio’n benodol ar Erthygl 12 – Parch ar gyfer safbwyntiau plant a phobl ifanc. Mae gan blant yr hawl i roi eu barn yn rhydd ar faterion sy’n eu heffeithio. Dylai oedolion wrando a chymryd plant o ddifri.
Senedd yr Ifanc Wrecsam yw’r Senedd ar gyfer Ieuenctid Wrecsam. Mae’n cynnwys pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n cynrychioli grŵp neu brosiect. Maent yn gweithio ar faterion ym mhob cwr o’r Sir sy’n effeithio ar bobl ifanc Wrecsam.
Mae Confensiwn Y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn offeryn hawliau dynol rhyngwladol sy’n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, iechyd a diwylliannol, plant.
I grynhoi ac i gael rhagor o wybodaeth gefndirol ar ddeddfwriaeth a pholisi hawliau plant yng Nghymru, ewch i http://www.plantyngnghymru.org.uk/ein-gwaith/hawliau/
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN