Heb weld hwn? Byddwn yn cynnig rhywfaint o gyrsiau beicio rhad ac am ddim cyn bo hir, er mwyn helpu oedolion a theuluoedd i fagu hyder wrth feicio ar ffyrdd ein dinas – fyddai gennych chi ddiddordeb mewn cyrsiau o’r fath?
Darperir y cyrsiau hyn gan Seiclo Clwyd Cyf, sy’n darparu cyrsiau hyfforddi beicio mewn ysgolion cynradd ar draws y sir. Mae’r hyfforddwyr yn hyfforddwyr beicio sydd wedi cymhwyso i safonau cenedlaethol, ac maent hefyd yn swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig sy’n meddu ar dystysgrifau uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ariennir y cyrsiau hyn gan Grant Refeniw Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru.
Beth fydd ei angen arnaf i gymryd rhan?
Yn gyntaf, bydd arnoch angen beic sy’n addas ar gyfer y ffordd, ac fe argymhellir yn gryf eich bod yn gwisgo helmed feicio. Dylech wisgo dillad addas ar gyfer y tywydd, megis dillad glaw a menig.
Gellir trefnu cael mynediad at feiciau a helmedau sy’n perthyn i Gyngor Wrecsam cyn belled â bod Seiclo Clwyd yn cael digon o amser a gwybodaeth.
Cofiwch hefyd ddod â dŵr a rhywfaint o fwyd/ byrbrydau gyda chi, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio’n dda.
Sut mae’n gweithio?
Bydd y cyrsiau yn dechrau gan ganolbwyntio ar sgiliau syml trin beic mewn amgylchedd heb draffig, gan symud ymlaen at strydoedd tawel ac yna llwybrau mwy prysur.
Dim ond lle i 6 beiciwr sydd ar bob cwrs, ac fe’u cynhelir am 9:30am a 1:30pm ar y dyddiadau canlynol:
Mawrth – Dydd Llun 25, Dydd Mawrth 26, Dydd Mercher 27 a Dydd Iau 28
Bydd man cychwyn y cwrs yn dibynnu ar ba ddiwrnod y caiff ei gynnal (gweler isod):
Dydd Llun – Parc Acton
Dydd Mawrth – Stansty
Dydd Mercher – Rhosddu
Dydd Iau – Gwersyllt
Sut ydw i’n archebu lle?
I gael rhagor o fanylion neu i archebu eich lle, gallwch anfon e-bost at admin@seicloclwyd.com
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Ddiogelwch ar y Ffyrdd: “Bydd y cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar oedolion a theuluoedd i gadw’n ddiogel wrth feicio o amgylch Wrecsam. Fe argymhellir eich bod yn archebu eich lle yn gynnar, rhag i chi gael eich siomi.”
Labordy STEM yn darparu ffyrdd difyr o ddysgu i blant Wrecsam (29.02.24) – Newyddion Cyngor Wrecsam