Yn ystod y blynyddoedd diweddar, wrth ymateb i’r pandemig COVID, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid am daliadau uniongyrchol i rieni plant oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim i helpu â chostau bwyd yn ystod gwyliau ysgol.
Rydym wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru na fydd hyn yn parhau ac mai’r taliad a wnaed ar gyfer hanner tymor mis Mai 2023 oedd yr olaf.
Gwyddom fod hyn yn dod ar adeg pan mae llawer o breswylwyr yn gweld costau’r cartref yn anodd. Os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich cartref, ewch i’n tudalennau cymorth gyda chostau byw am gyngor am unrhyw help arall a allai fod ar gael i chi.
Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd dudalen we Cael help gyda chostau byw sydd â gwybodaeth am ffynonellau cymorth ariannol posibl.
Os ydych yn teimlo y byddwch yn ei chael hi’n anodd yn ystod gwyliau ysgol, ewch i dudalen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gael manylion yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Bwyd a Hwyl.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.