Fe fydd Cyngor Wrecsam yn dathlu ei gofrestrwyr ar 4 Gorffennaf, gan fod Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr yn cael ei gynnal am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Yn Wrecsam, pa unai yn gweinyddu mewn priodas neu bartneriaeth sifil, yn cofrestru genedigaeth newydd gyda rhieni balch, neu’n cefnogi teuluoedd wrth iddynt gofrestru marwolaeth anwylyn, mae Cofrestrwyr Wrecsam yn darparu rôl hanfodol i bawb ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae gofal, tosturi a phroffesiynoldeb ein cofrestrwyr yn haeddu cael ei werthfawrogi.
Dywedodd Joanne Moth, Cofrestrydd Arolygol Dros Dro: “Yn Wrecsam, mae ein tîm gwasanaethau cofrestru yn fach (Lois, Paul, Amelia a Vicky) ond rydym ni yma i gefnogi ac arwain trigolion, beth bynnag fo’u hanghenion. Mae bob dydd yn wahanol, hyd yn oed pan fo pethau’n heriol, mae’n foddhaus iawn.
“Rwyf wedi gweithio yn y gwasanaeth cofrestru am 15 mlynedd rŵan ac mae llawer o newidiadau wedi digwydd yn yr amser hwnnw. Mae cofrestrau ysgrifenedig wedi cael eu disodli gan waith electroneg; mae gennym bellach nifer o leoliadau sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer priodasau; partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw; ac wrth gwrs yn fwy diweddar, rydym wedi gweithio trwy bandemig fyd-eang.
“Hyd yn oed gyda’r holl newid, mae un peth wedi aros yr un fath: mae’n anrhydedd bod yn bresennol ar gyfer aelodau’r cyhoedd yn ystod rhai o ddigwyddiadau mwyaf pwysig eu bywydau. Rwy’n falch iawn o fod wedi gallu creu gyrfa yn y gwasanaeth cofrestru.”
Nawr, fe fydd Diwrnod Cenedlaethol y Cofrestrwyr 2023, diwrnod sy’n ddigwyddiad blynyddol, yn llenwi’r cyfryngau cymdeithasol, gan gyflwyno preswylwyr Wrecsam i’r cofrestrwyr a hefyd rhoi cipolwg ar y swydd.
Dilynwch yr hashnod #CaruEichCofrestrydd a chadwch lygad ar Facebook @wrexhamcouncil a Twitter @wrexhamcbc ar 4 Gorffennaf, i glywed straeon gan bobl bwysig iawn.