Mae Cyngor Wrecsam wedi lansio ymgynghoriad ar y fersiwn nesaf o’i Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd. Hoffem i chi ddweud os yw’n cynrychioli eich barn chi a beth allwn ni gynnwys yn y cynllun i ddiwallu nodau gwarchod rhag llifogydd ein cymunedau.
Beth yw cynnwys y cynllun?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am ddŵr wyneb, cwrs dŵr cyffredin a llifogydd dŵr daear. Bydd y cynllun hwn yn amlinellu’r mesurau yr ydym eisiau eu gweithredu dros y chwe blynedd nesaf i godi ymwybyddiaeth o’r perygl llifogydd a diogelu cymunedau’n well. Mae’r cynllun hwn hefyd yn cynrychioli’r agwedd na allwn bellach adeiladu ein ffordd allan o’r problemau llifogydd, ond ein bod angen gweithio gyda natur er mwyn lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Dweud eich dweud
Mae llifogydd yn effeithio nifer o bobl ar draws y sir ac nid oes angen i chi fod ger afon i brofi llifogydd, felly mae’n bwysig i chi ddweud eich dweud ar sut fydd llifogydd yn cael ei reoli. Gallwch ddweud eich dweud drwy fynd i wefan ‘Eich Llais’ a llenwi’r arolwg. Dylai’r arolwg gymryd tua 10 munud i’w gwblhau unwaith i chi ddarllen y cynllun. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener, 9 Chwefror.