Erthygl Gwadd – Diogelwch ffyrdd Cymru
*Os ydych chi’n rhentu cartref gyda’r Cyngor, ni ddylech chi na’r bobl rydych chi’n gyfrifol amdanynt storio unrhyw beth allai fynd ar dân na ffrwydro yn eich cartref na mewn unrhyw ardal gymunedol. Mae hyn yn cynnwys e-feiciau, e-sgwteri neu gerbydau tebyg sy’n cael eu gwefru â batris. Diogelwch tân e-feiciau ac e-sgwteri | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn tynnu sylw at y gyfraith ar e-feiciau ac e-sgwteri ac mae arnon ni angen eich help chi!
Efallai y bydd rhai wedi prynu e-feic neu e-sgwter yn ddigon diniwed, heb wybod y gallen nhw fod yn torri’r gyfraith wrth ei reidio. Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn gofyn i ysgolion a cholegau rannu gwybodaeth fel bod modd osgoi gwrthdrawiadau ac anafiadau yn y pen draw.
e-feiciau Mae e-feic yn feic pedlo gyda chymorth trydan. Mae ganddo fodur trydan i helpu beicwyr pan fyddan nhw’n pedlo. Mae angen ichi fod yn 14 oed o leiaf i reidio e-feic, ond does dim angen trwydded yrru arnoch chi.
Mae rhai pobl wedi ceisio addasu eu e-feic, felly mae’n bwysig sicrhau nad yw allbwn pŵer uchaf y modur yn fwy na 250 watt ac nid yw’r modur yn gallu gyrru’r beic pan fo’n teithio ar fwy na 15.5mya.
Yn ôl y gyfraith, chaiff e-feic ddim gyrru’r beiciwr oni bai ei fod yn cael ei bedlo hefyd. Os byddwch chi’n gweld rhywbeth rydych chi’n credu ei fod yn e-feic ac nad yw’r gyrrwr yn pedlo, mae’n cael ei gyfrif yn feic modur trydan ac mae’r rheolau ar y rhain yn llawer mwyn tynn.
Fyddech chi ddim yn reidio beic modur sydd ag injan betrol heb drwydded ac yswiriant – ac mae’r rheolau yr un fath yn union gyda beic modur trydan!
e-sgwteri Efallai bod rhai pobl yn ystyried sgwter trydan (e-sgwter), yn enwedig os ydyn nhw wedi gweld eraill yn eu reidio’n lleol.
Ond, mae’n anghyfreithlon defnyddio e-sgwter preifat ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd neu lonydd beicio. Mewn gwirionedd, yr unig le i reidio e-sgwter yng Nghymru yn gyfreithlon yw ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr – ym mhob man arall mae hyn yn erbyn y gyfraith.
Efallai na fydd rhai pobl yn gwerthfawrogi’r effaith y mae reidio’n anghyfreithlon yn ei chael. I rywun sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw, gall hyn gael cymaint o effaith nes eu bod yn teimlo na allan nhw fynd allan ar eu pen eu hunain, gan amharu ar eu dewisiadau symud ac efallai hyd yn oed arwain at golli annibyniaeth.
Yn anffodus, mae pobl eisoes wedi cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol wrth reidio’n amhriodol ac yn anghyfreithlon. Does neb am weld teuluoedd eraill yn gorfod ymdopi â chanlyniadau digwyddiadau torcalonnus tebyg.
Mewn rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig, mae treialon yn cael eu cynnal gan y llywodraeth lle gallwch chi rentu e-sgwter a’i ddefnyddio ar y ffordd ac ar lonydd beicio os oes gennych chi drwydded yrru lawn neu drwydded dros dro. Yng Nghymru, does dim treialon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.
Peidiwch â chael eich dal trwy yrru’n anghyfreithlon. Gofalwch eich bod yn gwybod y gyfraith ar e-feiciau ac e-sgwteri.
Mae e-feiciau ac e-sgwteri yn fwyfwy poblogaidd. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu pweru gan fatris lithiwm-ïon a all gael eu gwefru yn y cartref. Mae defnyddio’r batris hyn mewn ystod eang o gynhyrchion cartref yn dod yn fwyfwy cyffredin.
Wrth wefru e-feiciau ac e-sgwteri, mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud hynny’n ddiogel er mwyn osgoi risg y bydd tân yn cychwyn gan beryglu’ch teuluoedd a’ch cartrefi.
Gan fod e-feiciau ac e-sgwteri’n cael eu defnyddio’n fwyfwy, mae yna bryder cyfatebol ynghylch diogelu rhag tân sy’n gysylltiedig â’u gwefru a’u storio. Disgwylir i’r defnydd o’r cynhyrchion hyn barhau i gynyddu. Mae rhai gwasanaethau tân ac ymchwilwyr tân wedi gweld cynnydd mewn tanau mewn batris e-feiciau ac e-sgwteri.
Gwefru
- Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd wrth wefru a thynnwch blwg eich gwefrydd bob amser ar ôl gorffen gwefru.
- Gofalwch fod gennych larymau mwg sy’n gweithio. Os ydych chi’n gwefru neu’n storio’ch e-feic neu’ch e-sgwter mewn garej neu gegin, gofalwch eich bod yn gosod dull canfod tân. Rydyn ni’n argymell larymau gwres yn hytrach na synwyryddion mwg ar gyfer y mannau hyn.
- Gwefrwch fatris tra byddwch chi’n effro, felly os bydd tân yn digwydd, gallwch ymateb yn gyflym. Peidiwch â gadael batris i’w gwefru tra byddwch chi’n cysgu neu i ffwrdd o’r cartref.
- Defnyddiwch y gwefrydd sydd wedi’i gymeradwyo gan y gweithgynhyrchydd ar gyfer y cynnyrch bob amser ac os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw arwyddion o draul neu ddifrod, prynwch wefrydd newydd swyddogol ar gyfer eich cynnyrch gan werthwr ag enw da. Peidiwch â gorchuddio gwefryddion neu becynnau batri wrth wefru gan y gallai hyn arwain at orboethi neu hyd yn oed dân.
- Peidiwch â gwefru batris na storio’ch e-feic neu’ch e-sgwter yn ymyl deunyddiau llosgadwy neu fflamadwy.
- Peidiwch â gorwefru’ch batri – edrychwch ar gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd i weld yr amserau gwefru.
- Peidiwch â gorlwytho socedi na defnyddio ceblau ymestyn amhriodol – defnyddiwch estyniadau heb eu coilio a gofalwch fod y cebl wedi’i raddio’n addas ar gyfer yr hyn rydych chi’n ei blygio i mewn iddo.
- Os bydd tan mewn e-feic, e-sgwter neu fatri lithiwm-ïon, peidiwch â cheisio diffodd y tân. Ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.
Storio
- Osgowch storio neu wefru e-feiciau ac e-sgwteri ar lwybrau dianc neu mewn mannau cymunedol mewn adeilad amlfeddiannaeth. Os bydd tân, gall hynny effeithio ar allu pobl i ddianc.
- Dylai Personau Cyfrifol ystyried y risgiau sy’n cael eu creu gan e-feiciau ac e-sgwteri wrth gael eu gwefru neu eu gadael mewn mannau cymunedol fel storfeydd beiciau, ystafelloedd gwefru sgwteri symudedd neu lwybrau dianc eraill. Efallai yr hoffen nhw gynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio, storio a gwefru’r cynhyrchion hyn yn ddiogel.
- Storiwch e-feiciau, e-sgwteri a’u batris mewn lle gweddol oer. Ceisiwch osgoi eu storio mewn mannau rhy boeth neu ry oer.
- Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd ar storio a chynnal batris lithiwm-ïon os nad ydyn nhw am gael eu defnyddio am gyfnodau hir.
Difrod a gwaredu
Os oes angen ichi waredu batri sydd wedi’i ddifrodi neu sydd ar ddiwedd ei oes, peidiwch â’i waredu yn eich gwastraff cartref neu’r deunyddiau ailgylchu arferol. Os cân nhw eu tyllu neu eu malu, gall y batris yma achosi tanau mewn lorïau biniau neu ganolfannau ailgylchu a gwastraff.
Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth am e-feiciau neu e-sgwteri, cysylltwch â Diogelwch Ffyrdd Cymru.
Ffôn: 02920 250600
Ebost: communication@roadsafetywales.co.uk
Gallwch hefyd gysylltu â’ch tîm diogelwch ffyrdd lleol yma.