Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston
Arall

Cyngor Wrecsam yn cefnogi cais newydd am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 2, 2025 4:09 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Train carriage
RHANNU

Mae WSMR wedi cyflwyno cais newydd i Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd i weithredu gwasanaethau uniongyrchol o Wrecsam i orsaf Llundain Euston o fis Rhagfyr 2026 ymlaen.

Mae’r cais newydd ar gyfer pedwar gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol bob ffordd o Wrecsam drwy Amwythig, Telford, Wolverhampton, Walsall, Nuneaton, i Lundain Euston.

Daw’r cais ar ôl i Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd wrthod ym mis Gorffennaf 2025 yn sgil materion ynghylch capasiti a diogelwch croesfannau troed, er bod y materion diogelwch a oedd yn weddill bellach wedi’u tynnu’n ôl.

Mae’r cais newydd yn adeiladu ar y capasiti presennol a rhyddhau llwybrau trên Avanti West Coast.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam, a’r Aelod Arweiniol dros Drafnidiaeth Strategol: “Mae Cyngor Wrecsam wedi parhau i gefnogi gwelliannau i wasanaethau rheilffyrdd ac mae hyn bellach yn flaenoriaeth i wella cysylltiadau â Chanolbarth Lloegr a Llundain Euston.

“Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda WSMR, rydym yn cefnogi eu cais newydd yn llawn. Mae’r buddsoddiad yn Wrecsam fel lle, a llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn darparu cyfleoedd gwirioneddol i greu cysylltiadau trafnidiaeth pwysig i gefnogi dyheadau’r ddinas. Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cefnogi’r cais yn y gorffennol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Bydd y Cyngor yn lobïo ein holl Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd, ac yn cyfarfod WSMR yr wythnos nesaf i sicrhau’r gwasanaethau hanfodol hyn.

“Mae Wrecsam yn ddinas ffyniannus sy’n tyfu ac mae gwasanaethau rheilffyrdd newydd nid yn unig yn creu swyddi a thwf, ond yn cefnogi gwell cysylltedd â chanolbarth Lloegr a Llundain Euston.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Wrecsam fel dinas, ac mae gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Lundain Euston nid yn unig yn darparu gwell gwasanaethau rheilffyrdd, ond cyfleoedd buddsoddi i Wrecsam a’r rhanbarth ehangach.”

Rhannu
Erthygl flaenorol save the date Mae Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd am ei drydedd flwyddyn…Rhagfyr 4 🎄
Erthygl nesaf Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English