Mae ffigyrau ymwelwyr yn cadarnhau bod Eisteddfod Wrecsam wedi croesawu 175,000 o ymwelwyr drwy gydol yr wythnos.
Wedi’i gynnal ar gyrion Wrecsam ym mis Awst 2025, mae’r ffigurau ymwelwyr bellach wedi cadarnhau bod 175,000 o ymwelwyr wedi mynychu, gan groesawu mwy o siaradwyr Cymraeg nag erioed o’r blaen.
Dywedodd Hyrwyddwr y Gymraeg, y Cynghorydd Hugh Jones, “Mae’n anrhydedd i ni fod wedi cynnal un o wyliau mwyaf Ewrop, mae’r ffigyrau ymwelwyr yn cadarnhau bod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol i Wrecsam ac yn ddathliad gwych o’r iaith, y diwylliant a’r dreftadaeth Gymraeg sydd gennym i’w cynnig.”
Roedd Pentref Wrecsam, canolfan gweithgareddau cynnes a chroesawgar yn dathlu’r hyn sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig, yn ganolog i’r Eisteddfod.
Roedd Pentref Wrecsam yn cynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, gweithgareddau crefft a chwarae, a sesiynau darllen yn y Babell Chwarae.
Roedd gweithgareddau cyffrous hefyd ar gael yn yr Ardal Chwaraeon, oedd yn cael ei redeg gan Wrecsam Egnïol, gan gynnwys gweithgareddau pêl-droed gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, sesiynau tennis gyda Tennis Cymru a chrys pêl-droed gwynt enfawr.
Fe wnaeth canolfan celfyddydau diwylliannol Wrecsam, Tŷ Pawb, hefyd guradu ‘Y Lle Celf’, un o’r arddangosfeydd celf gyfoes mwyaf yn Ewrop, yn arddangos detholiad cenedlaethol o gelf, crefft a phensaernïaeth gyfoes.
Anogwyd ymwelwyr hefyd i archwilio Wrecsam ac ymweld â Ffrinj Wrecsam, dan arweiniad busnesau lleol, lleoliadau diwylliannol a grwpiau cymunedol, gan gynnig cyfle i ymwelwyr ymgolli ym mhopeth sydd gan Wrecsam i’w gynnig, o fwyd a diod i farchnadoedd stryd a pherfformiadau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Rhoddodd yr Eisteddfod hwb mawr i’r Gymraeg, ein diwylliant a’n heconomi yma yn Wrecsam, roedd yn wych gweld cymaint o ymwelwyr newydd yn archwilio’r hyn sydd gennym i’w gynnig ac yn cefnogi ein busnesau, lleoliadau a grwpiau cymunedol lleol”.
Cadarnhawyd y bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2026 yn cael ei chynnal yn Llantwd, Gogledd Sir Benfro rhwng 1-8 Awst.



