Ydych chi’n ofalwr di-dâl? Ydych chi’n gofalu am rywun na fyddai’n gallu ymdopi heb eich cefnogaeth?
Hoffem glywed gennych chi. Ymunwch â’n fforwm i ofalwyr di-dâl ar un o’r dyddiadau canlynol i gael sgwrs am eich profiadau a dweud wrthym am y materion sy’n effeithio arnoch chi fel gofalwr di-dâl.
Cynhelir y fforwm ar-lein, dewiswch y dyddiad a’r amser sydd orau gennych.
- Dydd Iau 12 Hydref, 12pm – 1pm
- Dydd Iau 19 Hydref, 4.30pm – 5.30pm
Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at commissioning@wrexham.gov.uk i gofrestru ar gyfer y fforwm a byddwn yn anfon y ddolen ymuno atoch.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.