Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Diweddarwyd diwethaf: Awst 20, 2026 1:34 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Car park
RHANNU

Nid yw’r tymor hyd yn oed wedi dechrau ac mae yna newyddion gwych i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Pan fydd tymor 2026/27 yn dechrau ar 22 Awst, bydd cyfleuster parcio a theithio Wrecsam hefyd yn ailagor ei gatiau gan ddarparu gwasanaeth hawdd, diogel, rhad a chyfleus.

Yn union fel y llynedd, bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig ar gyfer pob gêm gartref – cwpan a chynghrair – ac mae’n costio £1 yn unig am siwrne o faes parcio Ffordd Rhuthun i faes y Cae Ras ac yn ôl eto ar ddiwedd y gêm.

Mae’r bysus yn rhedeg bob 20 munud o 2 awr cyn y gic gyntaf ac eto bob 20 munud am bum taith ar ôl y gêm.  Bydd amseroedd yn cael eu cyhoeddi cyn pob gêm gartref.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod arweiniol dros yr amgylchedd:  “Rydw i mor falch bod cyfleuster parcio a theithio Ffordd Rhuthun yn dychwelyd am dymor arall. Rydym wedi gweithio gydag Arriva Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud yn siŵr bod hwn yn wasanaeth fforddiadwy a dibynadwy ac, os na wnaethoch ei ddefnyddio y tymor diwethaf, byddwn yn argymell rhoi cynnig arni.

“Mae parcio ar ddiwrnod gêm bob amser yn heriol felly byddai’n wych gweld cefnogwyr yn parcio ar Ffordd Rhuthun – cofiwch ei fod am ddim i barcio a bod parcio a theithio ond yn costio £1 i fynd a dod.”

Trwy gynnig opsiwn parcio arall, nod y gwasanaeth hwn hefyd yw atal y parcio anghyfreithlon, peryglus a diystyriol sydd, yn anffodus, yn digwydd o gwmpas pob gêm.  Mae parcio ar Ffordd Rhuthun, neu un o feysydd parcio canol y ddinas yn well i gefnogwyr sy’n mynd i’r gêm (dim dirwyon!) a thrigolion sy’n byw o fewn pellter cerdded i’r Cae Ras.

Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau…

Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau, beth am ddal y bws a thalu llai wrth ddangos eich tocyn gêm i’r gyrrwr?

Prynwch Docyn Parth Wrecsam (gwelwch y llwybrau yma) a thalu £2 am Oedolyn / £1 am Blentyn (5-15 oed). Mae pobl ifanc 16-21 oed hefyd yn talu £1 gyda cherdyn “Fy Ngherdyn Teithio” gan Lywodraeth Cymru.

Mae hynny’n arbediad o hyd at £3.60.

Ar ôl y gêm fydd dim brys i deithio adref gan fod tocynnau dydd yn ddilys tan 11.59pm ar y diwrnod, felly gallwch aros yng nghanol y ddinas i ddathlu buddugoliaeth arall!

Rhannu
Erthygl flaenorol Kidsfest Sŵn mawr i chwedlau bach Big noise for little legends Dydd Sadwrn nesaf: Kidsfest yn dod i Wrecsam ym mis Awst
Erthygl nesaf Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mimica
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English