Rywbryd neu’i gilydd dwi’n siŵr bod pob un ohonom wedi bod yn Llyfrgell Wrecsam. Efallai y buoch yno’n ddiweddar, neu pan oeddech yn iau? Pryd bynnag yr oeddech chi yno, mae’n eithaf tebyg y gwnaethoch chi alw heibio’r Caffi am baned.
Pa un a oedd eich ymweliad â’r llyfrgell yn dechrau’n neu’n darfod yn y caffi, roedd yn sicr yn rhan hollbwysig o’r profiad!
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Efallai y byddwch yn synnu clywed felly bod angen rhywun newydd i gymryd tenantiaeth y caffi ac i ofalu am y cyfleuster – ai chi yw’r person hwnnw?
Mae’n debyg nad ydych erioed wedi meddwl am redeg caffi – ond pam ddim?
Oes gennych chi brofiad o ddarparu gwasanaethau a gofal cwsmer rhagorol
Neu ddiddordeb mewn gweithgareddau a digwyddiadau hyrwyddo clwb llyfrau?
Allwch chi gynnal cyfleusterau glan, wedi’u rheoli’n dda?
Os ydi’r uchod yn taro tant, efallai na fyddai cymryd tenantiaeth caffi’r llyfrgell yn rhywbeth mor annichonol ag yr oeddech yn ei feddwl ar yr olwg gyntaf.
Y dyddiad cau yw dydd Gwener, Medi 7.
Gallwch ddarganfod mwy am dendro am y Caffi drwy ddilyn y ddolen Gwerthwchi Gymru
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION