football fans

Mae Maethu Cymru Wrecsam yn ymuno ag awdurdodau lleol o ledled y DU i greu tîm rhithwir newydd ar gyfer Cwpan y Byd gyda’r nod o gyflawni un gôl – i recriwtio mwy o ofalwyr maeth.

Mae 27 awdurdod lleol ledled y DU wedi ymuno â Chynghorau Lleol Unedig – tîm rhithwir newydd – i rannu clipiau ar gyfer bob diwrnod o Gwpan y Byd a rhesymau unigryw pam y dylai pobl faethu gyda’u cyngor lleol.

Bob diwrnod o’r twrnamaint pêl-droed bydd cyngor yn rhannu fideo gyda’r neges “Helpu unigolyn ifanc i gyflawni eu gôl”

Mae’r ymgyrch yn dod â chymuned faethu unedig ynghyd, i rannu pam y dylai pobl faethu gyda’ch awdurdod lleol.

Bydd timau pêl-droed, pobl ifanc a theuluoedd yn ymddangos yn y clipiau yn ystod ymgyrch Cwpan y Byd gyda’r hashnod #FosterWithYourCouncil2022

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Rosemarie – gofalwr maeth Wrecsam

“Roeddwn yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r ymgyrch i helpu i recriwtio gofalwyr maeth i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun ifanc, gall fod mor gadarnhaol i chi a’r unigolyn ifanc.”

Gary – gofalwr maeth Wrecsam

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch hon i amlygu’r effaith anferth y gall gofalwr maeth gwych ei gael ar fywyd plentyn. Pan ofynnwyd i ni gymryd rhan yn y ffilm nid oedd rhaid i ni feddwl ddwywaith i ymuno a rhannu’r neges “Maethwch gyda’ch awdurdod lleol”

Lisa – gofalwr maeth Wrecsam

“Roedd hi’n braf cael bod yn rhan o’r ymgyrch recriwtio am fore, ac yn gyfle i ni gael datgan bod galw parhaus am ofalwyr maeth ymroddedig.”

Dywedodd y Cyng. Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant:

“Mae gan bêl-droed y gallu unigryw i ddod â thrigolion ein cymunedau ynghyd. Mae maethu yn union yr un fath. Mae’n creu synnwyr o gydgymuned a chadernid. Yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn falch o ymuno â chynghorau lleol ledled y DU i ddathlu maethu a hyrwyddo ei fanteision ehangach i bawb.  Rydym yn edrych am bobl sy’n gallu helpu plentyn mewn gofal. I’w helpu i deimlo eu bod yn perthyn, eu helpu i chwarae rhan gadarnhaol yn ein cymunedau. Trwy ymuno â’r tîm maethu yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam byddwch yn gwneud gwahaniaeth i blant lleol. Beth am uno fel cymuned faethu ac anfon y neges ynghylch pam y dylem faethu yma yn Wrecsam.”

Dywedodd Rhian Thomas – Uwch Bennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Plant:

“Rydym yn falch o gael ymuno â chynghorau lleol ledled y DU i hyrwyddo pwysigrwydd maethu. Mae maethu a phêl-droed yn dod â phobl a chymunedau o bob cefndir at ei gilydd ar gyfer un pwrpas cyffredin. Ac felly mae awdurdodau lleol yn dod ynghyd fel cymuned faethu unedig, i rannu pam y dylech faethu gyda’ch awdurdod lleol.

Yn cychwyn yr ymgyrch ar 21 Tachwedd fydd Cyngor Sir Northumberland a Chyngor Medway yn darparu’r fideo terfynol ar Ddiwrnod 27.

Bydd Wrecsam yn ymddangos ar 12 Rhagfyr a bydd yn cynnwys fideo gyda rhywfaint o ofalwyr maeth anhygoel Wrecsam yn Brickfield Rangers un o’n clybiau pêl-droed lleol a thîm Maethu Cymru a byddwn hyd yn oed yn gweld ychydig ar Wrob a Wryan.

Bydd Maethu Cymru yn rhannu ymgyrchoedd bob Cyngor bob dydd ar Twitter felly dilynwch @foster_wales

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI