Mae Wrecsam yn dref gyda hanes marchnad cryf a llawer o asedau hanesyddol gwych.
Rydym hefyd yn gwneud defnydd o orffennol Wrecsam fel tref marchnad drwy ddatblygu Tŷ Pawb, datblygiad celfyddydau, marchnad a chymuned newydd.
Ond rydym hefyd yn gweithio ar gais am arian fydd – os yn llwyddiannus – yn gweld hyd yn oed mwy o gyfoeth pensaernïol y dref yn dod yn ôl yn fyw, a gwneud defnydd o asedau gorau’r hen Wrecsam i helpu i ddatblygu Wrecsam y dyfodol.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Byddwn yn cyflwyno cais am arian Treftadaeth Treflun i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn fuan, fydd yn helpu i ddatblygu’r amgylchedd hanesyddol amlwg o fewn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar rai o asedau hanesyddol cryfaf yng nghanol tref Wrecsam.
Mae prif elfen o’n cais yn ceisio rhoi cyfle i berchnogion adeiladau, pobl leol, asiantiaid, penseiri a chontractwyr i hyfforddi ac uwchsgilio ar gyfer adfer adeiladau hŷn a defnyddio sgiliau adeiladu traddodiadol.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr a hygyrch i gefnogi pobl Wrecsam ddatblygu eu sgiliau a chael mynediad i gyflogaeth.
Cyflwynir cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Rhagfyr ar gyfer Cynllun Treftadaeth Treflun.
Rydym yn gobeithio y bydd cais Cam 1 yn llwyddiannus, ac os felly, gallwn lunio cais Cam 2, fydd yn mynd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn Ebrill 2019.
Os bydd pob dim yn mynd yn iawn, gall gwaith ddechrau ar ganol y dref erbyn yr hydref 2019.
Os yn llwyddiannus, byddai Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu arian i berchnogion adeilad i roi cyfle iddynt wella edrychiad a defnydd o’u heiddo yn sylweddol drwy waith addasu, ailosod nodweddion traddodiadol a gollwyd a gwneud gwaith atgyweirio hanfodol.
Byddai perchnogion hefyd yn cael cyfle i helpu i adfywio canol y dref drwy wneud defnydd o adeiladau gwag a ddim yn cael eu defnyddio a lloriau uchaf.
Byddai’n rhoi cyfle i ni roi cyhoeddusrwydd i gymeriad pensaernïol amlwg canol y dref a chyfannu rhaglenni cyfredol eraill sy’n ystyried adfywio canol y dref.
Rydym yn gwybod y bydd gan lawer o bobl ddiddordeb yn y prosiect hwn – mae yna lawer o waith da yn cael ei wneud yng nghanol y dref ar hyn o bryd, a bydd perchnogion adeiladau yn arbennig o awyddus i glywed beth fyddai’r prosiect yn ei olygu iddyn nhw a’u heiddo – ac yn fwy cyffredinol, adfywio canol tref Wrecsam.
Gwahoddir perchnogion a deiliaid adeiladau yng Nghanol y Dref i ddigwyddiad gwybodaeth yn Ystafell Gyfarfod 1, Neuadd y Dref, Wrecsam rhwng 3pm a 7pm ddydd Llun, 6 Tachwedd.
Bydd swyddogion wrth law i drafod y cais ac i ateb cwestiynau cyffredinol, felly os oes gennych ddiddordeb, byddai yna groeso i chi fod yn bresennol.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Os yn llwyddiannus, mae’r cais hwn yn gyfle gwych i Wrecsam ar gyfer ei adfywio yn y dyfodol.
“Mae gennym lawer o asedau hanesyddol gwych o fewn yr Ardal Gadwraeth ac mae’r gobaith y byddant yn cael eu hadfywio a gwneud defnydd masnachol o’r rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn addawol iawn.
“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y cais hwn yn llwyddiannus ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r swyddogion sydd wedi cyfrannu am eu holl waith.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU