Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Groundwork Gogledd Cymru yn cyhoeddi Hyfforddiant Tywys Cymunedol yn Nyffryn Clywedog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Groundwork Gogledd Cymru yn cyhoeddi Hyfforddiant Tywys Cymunedol yn Nyffryn Clywedog
Pobl a lle

Groundwork Gogledd Cymru yn cyhoeddi Hyfforddiant Tywys Cymunedol yn Nyffryn Clywedog

Diweddarwyd diwethaf: 2025/06/03 at 2:05 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Groundwork Gogledd Cymru yn cyhoeddi Hyfforddiant Tywys Cymunedol yn Nyffryn Clywedog
RHANNU

Erthygl Gwadd Groundwork Gogledd Cymru

Diolch i arian gan Gronfa Dreftadaeth Genedlaethol y Loteri, mae Groundwork Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod yn lansio cwrs Hyfforddiant Tywys Cymunedol newydd. Bydd deg lle yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer unigolion 16 oed a throsodd sydd â diddordeb mewn crwydro yn yr awyr agored, dysgu am fannau gwyrdd, neu ddarganfod mwy am dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal.

Mae’r hyfforddiant lefel mynediad hwn, a ddarperir gan Wales Best Guides, yn cynnig cyflwyniad difyr i grefft y tywysydd, gan ddilyn arferion gorau sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang tra’n rhoi sylw i straeon, tirweddau a phobl Gogledd Cymru. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn datblygu sgiliau siarad yn gyhoeddus ac yn gwella eu hyder, yn ogystal â darganfod sut mae natur wedi ailhawlio safleoedd treftadaeth ddiwydiannol ledled y rhanbarth.

Dywedodd Ruth Armstrong, Uwch Gydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned:

“Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle hyfforddiant hwn, ac rwy’n gobeithio y bydd yn helpu pobl i ailddarganfod cariad at Ddyffryn Clywedog mewn ffordd newydd a difyr.”

Yn ystod y cwrs bydd y cyfranogwyr yn arsylwi ar daith dywysedig broffesiynol, yn cydweithio mewn grwpiau i ymchwilio i hanes lleol, ac yn ymarfer cyflwyno darn tywys byr mewn lleoliad cyfeillgar a chefnogol. Does dim asesiadau ffurfiol, ond gall cyfranogwyr ddewis cwblhau cynllun archwilio a gweithredu personol a fydd yn cael ei adolygu gyda’r hyfforddwr.

Cynhelir yr hyfforddiant ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd dros bedwar sesiwn wythnosol, a fydd y para 5 awr yr un, 9:30am – 2:30pm ar ddydd Iau ar y dyddiadau canlynol: 26 Mehefin, 3 Gorffennaf, 10  Gorffennaf ac 17 Gorffennaf. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, bydd cyfranogwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb gan WOTGA.

Gall y cwrs hwn arwain at gymwysterau tywys proffesiynol hefyd. Gall graddedigion fynd yn eu blaenau i ddilyn cyrsiau achrededig Lefel 1 a 2 Bathodyn Gwyn, lefel 3 Bathodyn Gwyrdd hyfforddiant tywys rhanbarthol, neu hyd yn oed cymhwyster Bathodyn Glas Lefel 4 (y ‘ddraig’), sy’n gymwys i Gymru gyfan. Gall y rhaglenni uwch arwain at gyfleoedd ar gyfer gwaith ac incwm llawrydd fel tywysydd WOTGA cymwysedig. I gofrestru neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ruth.armstrong@groundworknorthwales.org.uk,

Rhannu
Erthygl flaenorol Llongyfarchiadau Lili Mai Jones, Elen Mai Nefydd, Mark Lewis Jones ac Glesni Llwyd Carter a fu'n cael ei dderbyn i'r orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni. Llongyfarchiadau Lili Mai Jones, Elen Mai Nefydd, Mark Lewis Jones ac Glesni Llwyd Carter a fu’n cael ei dderbyn i’r orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni.
Erthygl nesaf wellbeing hub Wythnos Gofalwyr: Diwrnod Heneiddio heb Gyfyngiadau 

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 27, 2026
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau Ionawr 27, 2026
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English