Mae Cyngor Wrecsam yn ystyried cynigion ar gyfer cyfleoedd gofal dydd gwell i bobl ag anghenion cymhleth.
Mae’r cynigion yn cynnwys symud y gwasanaeth o Ganolfan Cunliffe yn Rhos-ddu i Ganolfan Adnoddau Cymunedol Acton.
Byddai’r adeilad yn Acton yn cael ei addasu ag offer arbenigol, a byddai’n dod yn gyfleuster gofal dydd modern.
Byddai’r newid yn golygu na fyddai’r adeilad bellach ar gael fel canolfan adnoddau, ond byddai grwpiau lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio canolfannau a lleoliadau cymunedol amgen yn Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae adeilad Canolfan Cunliffe wedi gweld dyddiau gwell yn bendant, a byddai angen buddsoddiad sylweddol ynddo yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae Canolfan Adnoddau Acton ar y llaw arall yn adeilad taclus, modern – ac nid yw’n bell i ffwrdd o ran lleoliad.
“Felly mae’n gwneud synnwyr symud ein gwasanaeth cyfleoedd dydd i Acton, fel y gallwn wneud gwell defnydd o’r adeilad hwnnw a darparu gwell gwasanaeth i oedolion ag anableddau ledled Wrecsam.”
Bydd sesiwn galw heibio ddydd Mercher, Ebrill 15 rhwng 3pm a 6pm yng Nghanolfan Adnoddau Acton – lle gall aelodau’r cyhoedd alw heibio i ofyn cwestiynau a chael rhagor o wybodaeth.
Byddai symud y gwasanaeth gofal dydd i Acton hefyd yn caniatáu i Ganolfan Cunliffe gael ei dymchwel, gan baratoi’r ffordd ar gyfer datblygiad tai cymdeithasol newydd i bobl a theuluoedd lleol.
Cafodd adeilad Canolfan 67 gerllaw ei ddymchwel ychydig dros dair blynedd yn ôl, ac mae gan y Cyngor uchelgais ers amser maith i ddatblygu tai cymdeithasol newydd ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tai: “Mae’n well gennym gynllun tai cymdeithasol newydd, yn debyg i’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn Nant Silyn a Hightown yn ystod y blynyddoedd diwethaf – lle rydyn ni wedi gallu adeiladu cartrefi trwsiadus, modern i bobl Wrecsam.
“Fodd bynnag, i symud ymlaen gyda’r uchelgais hon, mae angen i ni adleoli’r gwasanaeth cyfleoedd dydd i ganiatáu gwaith ar y safle.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae Canolfan Cunliffe wedi chwarae rhan bwysig ers blynyddoedd lawer, ond mae’r adeilad wedi’i dreulio a byddai angen llawer o fuddsoddiad ar ryw adeg yn y dyfodol.
“Mae symud y gwasanaeth cyfleoedd dydd i Acton yn ateb doethach, a bydd yn caniatáu i ni wneud gwell defnydd o adeilad modern deniadol.
“Bydd gwagio Canolfan Cunliffe hefyd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda’n dyhead hirsefydlog i adeiladu tai cymdeithasol o ansawdd uchel yn Rhos-ddu – rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag ato ers blynyddoedd lawer.
“Cafodd adeilad Canolfan 67 ei ddymchwel yn 2022, a bydd cael gwared ar Ganolfan Cunliffe yn gam arall tuag at adfywio’r safle, ac anadlu bywyd newydd i’r rhan hon o’r ddinas.”



