Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newidiadau i gasgliadau biniau dros y Pasg…cofiwch wirio’ch diwrnod casglu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newidiadau i gasgliadau biniau dros y Pasg…cofiwch wirio’ch diwrnod casglu
Y cyngor

Newidiadau i gasgliadau biniau dros y Pasg…cofiwch wirio’ch diwrnod casglu

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 31, 2026 3:02 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Newidiadau i gasgliadau biniau dros y Pasg…cofiwch wirio'ch diwrnod casglu
RHANNU

DIWEDDARIAD 31.03.2026

Cynnwys
  • Gwirio eich diwrnod casglu
  • Negeseuon atgoffa am gasgliadau
  • Trosolwg sydyn o’r newidiadau
    • Casgliadau gwastraff gardd
    • Nodyn atgoffa am reolau ailgylchu ychwanegol
    • Canolfannau ailgylchu

Gareth Jones, Pennaeth Gwasanaeth (Strategaeth) Dros Dro: “Oherwydd cyfnod Gŵyl Banc y Pasg, bydd newidiau ar gasgliadau biniau ar Ddydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg ac rydym yn cydnabod yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein trigolion.

“Rydym wedi darparu cynlluniau casglu wedi’i diweddaru gyda dyddiadau diwygiedig ar gyfer rhai o’n gwasanaeth casglu wythnosol. Mae patrwm gwyliau banc dwbl y Pasg yn heriol i’n timau casglu biniau. Byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o leihau unrhyw darfu drwy gydol gweddill y flwyddyn a byddwn yn addasu ein calendrau i adlewyrchu hyn o Ŵyl y Banc ar Fai’r 4ydd.”


Bydd dyddiadau casgliadau gwastraff ac ailgylchu arferol rhai trigolion yn newid dros gyfnod y Pasg, ond mae yna gwpl o ffyrdd hawdd i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau.

Gwirio eich diwrnod casglu

Mae’r dudalen gwirio eich diwrnod casglu yn dangos dyddiadau eich pedwar casgliad nesaf a pha finiau ac ailgylchu y dylech eu rhoi allan. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i weld eich diwrnod casglu, a gallwch edrych ar ran ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu eu stryd.

Mae’n ffordd gyflym a hawdd o gadw trefn ar eich casgliadau.

Negeseuon atgoffa am gasgliadau

Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf yw trwy gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff. Os gwnewch hyn, byddwch yn cael e-bost i’ch atgoffa i roi eich biniau allan y diwrnod cyn i’ch casgliad ddigwydd. Mae hefyd yn ffordd wych o gael gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio arnoch chi.

Cofrestrwch heddiw

Trosolwg sydyn o’r newidiadau

Dyma grynodeb sydyn…

Ni fydd unrhyw gasgliadau ar:

  • Dydd Gwener 3 Ebrill (Dydd Gwener y Groglith)
  • Dydd Llun 6 Ebrill (Dydd Llun y Pasg)

Sy’n golygu:

  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad ailgylchu ddydd Gwener, 3 Ebrill, gallwch roi ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Gwener, 10 Ebrill yn lle hynny.
  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad bin du/glas ac ailgylchu ddydd Gwener, 3 Ebrill, bydd eich biniau du/glas yn cael eu casglu ddydd Mawrth, 7 Ebrill yn lle hynny, a gallwch roi unrhyw ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Gwener, 10 Ebrill.
  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad bin du/glas ac ailgylchu ddydd Llun, 6 Ebrill, bydd eich biniau du/glas ac unrhyw ailgylchu ychwanegol yn cael eu casglu ddydd Llun, 13 Ebrill yn lle hynny.
  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad ailgylchu ddydd Llun, 6 Ebrill, gallwch roi ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Llun, 13 Ebrill yn lle hynny.

Casgliadau gwastraff gardd

Mae casgliadau’n dilyn patrwm tymhorol, gyda mis Ebrill a mis Mai yn gweithredu yn ôl amserlen addasedig oherwydd gwyliau banc. Gallwch gael gwybod pryd y bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu trwy wirio eich diwrnod casglu neu gofrestru i dderbyn ein negeseuon atgoffa am gasgliadau.

Bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd i’r patrwm arferol o fis Mehefin.

Nodyn atgoffa am reolau ailgylchu ychwanegol

Os bydd eich blychau ailgylchu yn llawn, gallwch adael unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy ychwanegol mewn cynwysyddion solet wrth ymyl eich ailgylchu arall ar eich diwrnod casglu a byddwn yn ailgylchu’r deunyddiau (gan adael y cynwysyddion ar ôl i chi eu hailddefnyddio eto).

Ond os oes gennych ailgylchu ychwanegol, gwahanwch y deunyddiau fel y byddech chi fel arfer… er enghraifft, os oes gennych boteli plastig a gwydr ychwanegol, rhowch y plastig mewn un cynhwysydd a’r gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.

Hefyd, byddwn yn casglu cardbord glân, wedi’i wasgu’n fflat, sy’n cael ei adael wrth ymyl cynwysyddion ailgylchu os nad yw’n fwy o ran uchder na lled na sach las safonol.

Canolfannau ailgylchu

Cofiwch, bydd ein canolfannau ailgylchu yn aros ar agor dros y Pasg os oes angen i chi eu defnyddio.

Yn ogystal, o ddydd Llun 6 Ebrill, bydd y Lodge, Brymbo a Phlas Madog yn aros ar agor yn hwyrach, gan gau am 8pm.

Nid oes unrhyw newidiadau i Lôn y Bryn, a fydd yn parhau i fod ar agor 8am-8pm drwy gydol y flwyddyn.

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd caiff fy miniau eu casglu? Gwiriwch eich diwrnod casglu a chofrestrwch am negeseuon atgoffa.

TAGGED:ailgylchubiniaubinsgwastraffrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Newidiwch i system e-filio'r dreth gyngor – mae'n gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus Newidiwch i system e-filio’r dreth gyngor – mae’n gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus
Erthygl nesaf Dewch o hyd i'ch gyrfa nesaf gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf... Dewch o hyd i’ch gyrfa nesaf gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English