Allech chi ymuno â’n Diwrnod Cynorthwyo Ceidwad nesaf a helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned?
Dewch draw ddydd Iau, Medi 25, 2025 ym Mharc Ponciau i helpu un o’n ceidwaid a dod i adnabod eich cymuned.
Beth yw Diwrnodau Cynorthwyo Ceidwad?
Cynhelir diwrnodau Cynorthwyo Ceidwad mewn parciau lleol yn Wrecsam. Byddwch yn cael y cyfle i gwrdd â phobl newydd tra’n gweithio gyda’ch gilydd i gwblhau amrywiaeth o dasgau awyr agored.
Fe allai’r tasgau yma gynnwys clirio llwybrau, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, adeiladu ac ailosod ffensys, cynnal a chadw gwrychoedd, gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn y parc, a threfnu sesiynau casglu sbwriel. Mae pob parc yn wahanol felly fe fydd y tasgau penodol yn amrywio.
Gosodir y tasgau ar y diwrnod yn dibynnu ar sgiliau a galluoedd y bobl dan sylw.
Pwy all helpu?
Unrhyw un 12 oed neu drosodd (rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn) sydd eisiau ymuno!
Sut ydw i’n ymuno y mis hwn?
Os gallwch chi helpu, dewch i gwrdd â ni ym Mharc Ponciau (Stryd y Bedyddwyr, LL14 1RL) am 10 fore Iau, Medi 25:
- Man gyfarfod: glwb bowlio (wrth ymyl y maes parcio)
- Gwisgwch ddillad cynnes sy’n addas i’r tywydd ac esgidiau glaw neu esgidiau cryfion!
- Bydd y sesiwn yn para rhwng 10am a 2pm a gallwch aros cyhyd ag y dymunwch (os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain)
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn e-bostiwch: LocalPlacesForNature@wrexham.gov.uk