Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r canfasio wedi dechrau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’r canfasio wedi dechrau
Pobl a lle

Mae’r canfasio wedi dechrau

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2025 1:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Canvass has begun
RHANNU

Peidiwch â cholli eich pleidlais – nawr yw’r amser i wirio’ch manylion cofrestru etholiadol neu beryglu colli’ch cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.

Mae’r canfasio blynyddol yn caniatáu i Gyngor Wrecsam gadw’r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i nodi pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Gydag etholiadau i’r Senedd yn cael eu cynnal ym mis Mai 2026, mae’r canfasio blynyddol yn amser da i wneud yn siŵr y byddwch chi’n gallu cymryd rhan.

Dywedodd Alwyn Jones, swyddog canlyniadau Cyngor Wrecsam: “Cadwch lygad am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Wrecsam yma ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Y canfasio blynyddol yw ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol am bob cyfeiriad yn gywir ac yn gyfredol.  Er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli’ch llais mewn unrhyw etholiadau sydd i ddod yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch chi.

“Os nad ydych chi wedi’ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw’n ymddangos yn y diweddariadau a anfonwn.  Os ydych chi am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein ar https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”

Yn benodol, anogir y rheini sydd wedi symud cartref yn ddiweddar i wirio eu manylion, gan eu bod nhw’n llai tebygol o fod wedi’u cofrestru na’r rhai sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser maith. Yng Nghymru, bydd 95% o’r rhai sydd wedi byw yn eu cartref ers 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o’i gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na dwy flynedd.

Yr etholiad nesaf y byddwch chi’n gallu pleidleisio ynddo yw etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026. Ar hyn o bryd, mae gan Wrecsam ddau AS a phedwar aelod rhanbarthol. Mae etholiadau yn digwydd bob pum mlynedd ac, ar hyn o bryd, pan fyddwch chi’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gennych chi ddwy bleidlais – un i ethol eich aelod etholaethol ac un i ethol eich aelod rhanbarthol. Yn 2026, bydd hyn yn newid… cymerwch olwg ar dudalen we Llywodraeth Cymru ar newidiadau i’r Senedd i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich statws cofrestru, gallwch anfon e-bost at y tîm gwasanaethau etholiadol yn electoral@wrexham.gov.uk.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol wellbeing hub Digwyddiad Atal Cwympiadau
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb yn lansio rhaglen newydd o weithgareddau dydd am ddim Mae Tŷ Pawb yn lansio rhaglen newydd o weithgareddau dydd am ddim

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English