Trawsgrifiad Cyfweliad Alwyn Jones
LG: Helo eto bawb. Luke sy’ ‘ma unwaith eto ac mae Wythnos Gweithredu Dros Ddementia’n parhau. Rwyf yma gyda chyfweliad arall ar eich cyfer heddiw, os ydych wedi bod yn gwylio’r rhai blaenorol, rydym wedi bod yn siarad â rhai gofalwyr yn ein cymuned, rhai gwesteion arbennig iawn, iawn ac nid yw heddiw’n wahanol. Rwyf yma gyda Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Mr Alwyn Jones. Helo Alwyn, sut ydych chi?
AJ: Helo, bore da Luke, sut ydych chi? Rydw i’n dda iawn, diolch.
LG: Da iawn, diolch am ymuno â ni heddiw. Fel y gwyddoch mae’n siŵr, ac fel y dywedais eisoes, mae’n Wythnos Gweithredu Dros Ddementia ac rydym yn dod â gwesteion arbennig ynghyd ar gyfer cyfweliadau fel yr un yma rydych yn garedig wedi cynnig ei wneud, gyda’r bwriad o ofyn yr un tri chwestiwn i bump o bobl wahanol i brofi’r ddamcaniaeth ynglŷn â phobl gyda dementia, sef os ydych wedi cwrdd ag un person sy’n byw gyda dementia, rydych ond wedi cwrdd ag un person sy’n byw gyda dementia. Gan gadw hynny mewn cof, mi ofynnaf fy nghwestiwn cyntaf i chi. Dywedwch wrthym amdanoch chi eich hun, beth yw eich rôl a’ch stori gyda dementia?
AJ: Diolch yn fawr iawn i chi. Felly, fy enw i yw Alwyn Jones a fi yw Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yma yn Wrecsam. Fel cyngor, rydw i’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu dangos bod gennym ymrwymiad cryf i’r bobl hynny sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, ac ein bod yn sicrhau bod Wrecsam yn le da, yn le diogel i bobl gyda dementia allu byw a’u bod yn gallu parhau i fyw mor annibynnol â phosib. Fel ein bod mewn sefyllfa i allu darparu’r wybodaeth gywir, y cyngor cywir ar yr adeg gywir. Yn amlwg, fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau pan fyddwn angen rhoi gwasanaethau a chymorth statudol i unigolion gyda dementia a gofalwyr, ein bod yn gallu gwneud hynny mewn modd amserol ond hefyd yn bwysicach fyth, ein bod fel cyngor yn gallu rhoi cefnogaeth ar waith i bobl o bwynt diagnosis, cefnogaeth i bobl yn y gymuned ac fel y dywedais, creu tref sydd yn ddiogel i bobl fyw ynddi. Mae’n falch iawn gen i ddweud ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r statws o weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol gan y Gymdeithas Alzheimer’s a ddyfarnodd y statws hwnnw i ni. Rydw i’n credu bod hynny oherwydd ein bod wedi gallu dangos y newidiadau rydym yn eu gwneud i’r gwasanaethau i bobl gyda dementia ar draws Wrecsam a gwneud yn siŵr eu bod yn hygyrch a’i bod yn hawdd i bobl gael y math yno o gefnogaeth. Yn ei hanfod, Luke, fy rôl i yw goruchwylio gwasanaethau gofal cymdeithasol yma. Rydym yn amlwg mewn sefyllfa lle mae angen i ni fod yn cefnogi pobl gyda dementia, boed hynny drwy gefnogaeth, arweiniad a chymorth neu drwy wasanaethau a chymorth ffurfiol y mae angen i ni eu rhoi ar waith ar gyfer yr unigolyn gyda dementia neu’u gofalwyr.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
LG: Rydw i’n falch iawn eich bod wedi sôn am y cyflawniad hwnnw am y drydedd flwyddyn yn olynol, oherwydd rwyf wedi ysgrifennu stori am hynny a fydd yn cael ei chyhoeddi hefyd. Braf iawn yw bod yn rhan o’r gwaith a mynd allan fy hun i gynnal y sesiynau ymwybyddiaeth gyda staff ac mae’n gyflawniad arbennig am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn enwedig oherwydd ein bod wedi bod yn meddwl am y pandemig, ond gan ganolbwyntio ar y sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia ac wythnosau ymwybyddiaeth o ddementia, yn eich barn chi, pa mor bwysig yw hi fod ymgyrchoedd fel hyn yn cael eu cynnal a pha mor hanfodol ydynt yn y gymuned?
AJ: Rydw i’n meddwl eu bod yn bwysig iawn i ddweud y gwir. Mae codi ymwybyddiaeth o bobl yn byw gyda dementia a cheisio cael gwared ar rywfaint o’r stigma ac efallai’r elfennau negatif sy’n gysylltiedig â dementia yn bwysig iawn, iawn. Mae arnom angen, mewn ffordd ddiogel a phriodol, rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am ddementia a’r gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud fel unigolion, fel awdurdod ac fel aelod o’r gymuned i fywydau pobl sy’n byw gyda dementia, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth i leihau’r stigma. Yn amlwg, cynhelir yr Wythnos Gweithredu Dros Ddementia rhwng 16 a 22 Mai ac mae’r wythnos hon yn gyfle gwirioneddol i ni rannu’r gwaith rydym wedi’i gyflawni hyd yma fel awdurdod. Mae staff gofal cymdeithasol sydd ar hyn o bryd yn Hyrwyddwyr Cyfeillion Dementia wedi cwblhau nifer o sesiynau deall dementia gydag ysgolion lleol sydd yn bwysig iawn i adeiladu ar genhedlaeth o bobl ifanc sydd â dealltwriaeth o anghenion pobl sy’n byw gyda dementia, felly pan fyddan nhw’n oedolion ac yn mynd yn hŷn bydd y stigma rydym yn siarad amdano yn llai, ac ni fydd yno yn yr un ffordd a bydd gennym gymdeithas fwy gwybodus. Yn syml iawn, Luke, mae’n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ymhlith ein staff, ond y gymuned a phobl mewn busnesau lleol i wneud byw gyda dementia yn haws a gwneud yn siŵr bod llai o stigma yn gysylltiedig â’r cyflwr.
LG: Yn sicr, rydw i’n cytuno’n llwyr a gan gadw hynny mewn golwg, mae’n ein harwain yn daclus at y cwestiwn olaf. Yn ystod y sesiynau hyn, rydym yn hoffi gofyn i’r bobl sy’n bresennol feddwl am un weithred bositif y gallent ei gwneud i hwyluso bywyd rhywun sy’n byw gyda dementia. Ar gyfer y bobl sy’n gwylio rŵan, pe gallech ddewis un weithred bositif rŵan, pa weithred fyddech chi’n ei hawgrymu?
AJ: Mewn gwirionedd, Luke, rydw i’n credu ein bod wedi cyfeirio at hyn rywfaint yn yr ateb diwethaf, sef, gwyddom fod nifer y bobl sy’n byw gyda dementia yn cynyddu a chredir y bydd oddeutu miliwn o bobl yn byw gyda’r afiechyd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Fel awdurdod, mae hyn yn gyfrifoldeb ar y cyngor cyfan, nid yn unig ni yma yng ngofal cymdeithasol, a buaswn hefyd yn dweud ei fod, yn ehangach, yn gyfrifoldeb ar gymunedau i gael dealltwriaeth o sut beth yw byw gyda dementia. Yn fy marn i, un peth mawr y dylem ni ei wneud yw meddu ar yr ymwybyddiaeth yna er mwyn i’n hadrannau, y cyngor a chymunedau wneud newidiadau bach a chymryd rhan yn rhai o’r sesiynau deall dementia ac mae hynny’n bwysig iawn oherwydd po fwyaf y byddwn yn hysbysu ynghylch dementia, y lleiaf fydd y stigma a byddwn yn addasu ein gwasanaethau mewn ffordd sy’n sicrhau bod ein gwasanaethau yn deall dementia. Gall pobl gymryd rhan yn y sesiynau cyfeillion dementia drwy gysylltu â commissioning@wrexham.gov.uk. Byddwn yn annog pawb i wneud hynny. Fel rhan o’r wythnos honno, rydym hefyd wedi comisiynu’r bws teithiol sy’n rhoi profiad rhithiol o ddementia a fydd yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Mehefin. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl gael profiad uniongyrchol o effeithiau dementia a byddwn yn hyrwyddo hynny ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol pan fydd y cyfle’n codi. Yn syml, y weithred rydw i eisiau ei chyflawni yw sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwneud pobl yn fwy cyfarwydd â’r cyflwr. Gwneud pobl yn llai ofnus, gwneud pobl yn gyfforddus a gwneud i bobl feddwl am sut maent yn sicrhau bod y gwasanaethau yn gweithio yn y ffordd gywir i gefnogi unigolion gyda dementia, gofalwyr sy’n gofalu am rywun gyda dementia a’i gwneud yn gymdeithas ddiogel i unigolion gyda dementia fyw ynddi.
LG: Gwych ac mae’n rhaid i mi eich llongyfarch chi a’r tîm am sicrhau’r drydedd flwyddyn yn olynol ac rydym yn siŵr o’i gael y flwyddyn nesaf hefyd, wrth weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia, felly, da iawn ac unwaith eto, diolch i chi am eich amser heddiw. Rydw i’n siŵr y bydd pawb yn cytuno fod hyn wedi bod yn llawn gwybodaeth oherwydd mae’n bwysig i bobl wybod beth mae eu hawdurdod lleol yn ei wneud iddyn nhw hefyd felly diolch yn fawr iawn am eich amser heddiw a mwynhewch weddill yr Wythnos Gweithredu Dros Ddementia. Diolch yn fawr am ymuno â ni.
AJ: Diolch yn fawr iawn Luke.
LG: Gwych, cymerwch ofal. Hwyl. Wel, diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto bawb a mwynhewch weddill y gweithgareddau a’r sesiynau ymwybyddiaeth. Unwaith eto, Luke ydw i a byddaf yn cynnal cyfweliad arall yfory felly dewch yn ôl i’w wylio. Diolch.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH