Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy’n dod â chyn-filwyr o bob cwr o’r sir at ei gilydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy’n dod â chyn-filwyr o bob cwr o’r sir at ei gilydd
Pobl a lle

Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy’n dod â chyn-filwyr o bob cwr o’r sir at ei gilydd

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 26, 2025 2:01 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy'n dod â chyn-filwyr o bob cwr o'r sir at ei gilydd
RHANNU

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Cyn-filwyr Wrecsam gan Neil Jones mewn cydweithrediad â Chyfamod y Lluoedd Arfog a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

Daeth y syniad yn dilyn awydd i ddod â chyn-filwyr o bob rhan o ardal Wrecsam at ei gilydd trwy bêl-droed – gan gynnig cyfleoedd i gadw’n heini, cysylltu, a chefnogi ei gilydd trwy bŵer chwaraeon.

Dechreuodd cynllunio ar gyfer y prosiect ym mis Ebrill 2025, a gyda chymorth Clwb Pêl-droed Wrecsam trwy eu Cysylltiad Cymunedol â’r Lluoedd Arfog, ehangodd y fenter yn gyflym. Ers ffurfio, mae’r tîm wedi tyfu i dros 48 o aelodau, sy’n cynrychioli’r Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Môr-filwyr Brenhinol, a’r Llu Awyr Brenhinol.

Mae sawl gêm elusennol eisoes wedi’u chwarae, gan gynnwys gemau yn erbyn Clwb Pêl-droed Croeshowell, Clwb Pêl-droed Brymbo, Clwb Pêl-droed Cymunedol Llandudno a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – gyda llawer mwy o gemau ar y gweill.

Ym mis Chwefror bydd tîm o HMS Dragon (y llong gyntaf i gael ei chysylltu â Wrecsam ers yr ail ryfel byd) yn Wrecsam i chwarae gêm. Hefyd yn 2026, mae gemau wedi’u cynllunio gyda thimau Hybiau Cyn-filwyr yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth – gan gynnwys Sunderland, Lerpwl, a Newcastle

Yn ddiweddar, fe wnaeth Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverly Parry Jones, ymweld â noddwr newydd y tîm, Sofa Outlet yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam, lle datgelwyd eu cit newydd a dywedodd, “Mae’n wych gweld tîm mor newydd yn datblygu mor gyflym gyda llawer o’n cyn-filwyr lleol bellach yn elwa o ymuno â’r clwb.”

Dywedodd sylfaenydd y clwb, Neil Jones, “Hoffwn ddiolch i Sofa Outlet am ddangos eu cefnogaeth i’n menter gan noddi ein cit swyddogol cyntaf. “Hoffwn hefyd ofyn i unrhyw gyn-filwyr sydd â diddordeb mewn ymuno i ddod i’n sesiynau ymarfer ar gae astro Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam; rydyn ni yno bob dydd Iau rhwng 6 a 7pm. “Croeso cynnes i bawb.”

Cit newydd i dîm pêl-droed yn Wrecsam sy'n dod â chyn-filwyr o bob cwr o'r sir at ei gilydd

Kate Jones, Neil Jones, Nick Davies ac Cyng Beverley Parry Jones

Rhannu
Erthygl flaenorol Llay Resource Centre Sbotolau ar weithgareddau llyfrgell Llai
Erthygl nesaf Plas Pentwyn, Coedpoeth Sbotolau ar weithgareddau llyfrgell Plas Pentwyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English