Os ydych chi’n awyddus i wella eich sgiliau cyfrifiadur, darllenwch ymlaen i ddysgu am gyrsiau cymunedol am ddim a gaiff eu rhedeg gan Goleg Cambria.
P’un a ydych chi am fod yn fwy hyderus ar gyfrifiadur, rhannu dogfennau, gwella eich rhagolygon am swyddi, neu os oes angen help arnoch i fynd ar-lein, mae cwrs sy’n addas i chi.
9 Medi, 2024
Cwrs sgiliau cyfrifiadur sylfaenol
9.30-11.30am
Canolfan Hamdden Plas Madoc, Ffordd Llangollen, Wrecsam LL14 3HL.
9 Medi, 2024
Sesiynau blasu i ddiweddaru eich sgiliau cyfrifiadur a meithrin eich hyder
1-3pm
Swyddfeydd Maximus, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam.
12 Medi, 2024
Cwrs sgiliau cyfrifiadur sylfaenol
1-3pm
Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, Ail Rodfa, Gwersyllt, Wrecsam LL11 4ED.
Mae’r cyrsiau’n addas ar gyfer pob gallu, gan gynnwys dechreuwyr. Maen nhw’n gyrsiau bach, lleol, am ddim.
Bydd cyfleoedd i ddatblygu felly efallai mai hwn yw’r cwrs i chi.
Anfonwch e-bost at skillsforlife@cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.