Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am Wrecsam Ifanc
Hoffet ti gyfrannu at wefan Wrecsam Ifanc? Mae Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn chwilio am ysgrifenwyr brwd i greu cynnwys diddorol ar gyfer gwefan Wrecsam Ifanc.
Os wyt ti’n gallu ysgrifennu storïau perthnasol ar destunau sy’n effeithio ar bobl ifanc, yna mae hwn yn gyfle da i ti!
Oes gennyt ti rywbeth i’w ddweud?
Fe elli di hefyd ysgrifennu negeseuon blog a’u gweld nhw’n cael eu cyhoeddi ar wefan Wrecsam Ifanc. Mae yna amrywiaeth eang o wybodaeth ar gael ar y wefan am faterion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu bob dydd.
Mae’r wefan yn edrych ar bynciau fel:
– Alcohol, cyffuriau ac ysmygu
– Addysg
– Iechyd a pherthnasau
– Tai a llety
– Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol +
– Iechyd meddwl
– Arian
– Teithio
– Gwaith a hyfforddiant
– Diogelwch ar y rhyngrwyd
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol: “Mae gwefan Wrecsam Ifanc yn adnodd gwych i unrhyw un 11-25 oed. Mae’n cynnwys llwyth o wybodaeth yn ogystal â chyfle i bobl ifanc uwchlwytho a chyfrannu cynnwys. Hoffaf annog pob person ifanc i fwrw golwg ar y safle ac ystyried cyfrannu ato.”
Oes arnat ti eisiau bod yn rhan o Wrecsam Ifanc?
Os hoffet ti gymryd rhan, neu os wyt ti’n nabod rhywun sydd â diddordeb, y cwbl sydd angen ei wneud ydi llenwi a chyflwyno ffurflen ar y wefan: http://youngwrexham.co.uk/become-a-writer/
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT