Dros y misoedd diwethaf, mae arian a sicrhawyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Cronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, y Gronfa Strydoedd Saffach a’r Gronfa Teithio Llesol wedi ein galluogi i wneud y Stryd Fawr a Chanol Dinas Wrecsam yn fwy deniadol a chyfeillgar i gerddwyr.
O 14 Ebrill ni fydd modd parcio ar y Stryd Fawr heblaw am lwytho a dadlwytho (mwy ar ein blog). Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gorfod symud y mannau parcio i’r anabl.
Fodd bynnag, mae gennym ni nawr 6 man parcio i’r anabl ar Ffordd Rhosddu (ger Sgwâr y Frenhines) a 6 ar Holt Street ger Tŷ Pawb. Mae hyn yn cyfateb i ddwywaith nifer y mannau parcio i’r anabl ar y Stryd Fawr ac mae’n ychwanegol at y 12 man parcio sydd eisoes ar gael ym maes parcio Stryd y Farchnad.
Mae gennym hefyd 6 man parcio ym maes parcio Neuadd y Dref sy’n troi’n faes parcio cyhoeddus ar y penwythnos.
Dywedodd Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams : “Mae rhan o’r gwaith ar y Stryd Fawr yn cynnwys cyfyngu ar fynediad i ganol y ddinas ar gyfer cerbydau rhwng 6am a 11.30 *heblaw am resymau penodol a restrir ar ein gwefan.
“Er y bydd yn cymryd ychydig amser i yrwyr rheolaidd i ganol y ddinas ddod i arfer â hyn, mae manteision creu canol dinas heb draffig wedi cael eu gwireddu mewn llawer o ddinasoedd a threfi mawr eraill, ac rydym yn awyddus i ailadrodd eu llwyddiannau.”