Gyda’r argyfwng costau byw yn achosi poen meddwl mawr i lawer o drigolion o ran gwresogi eu cartrefi yn ystod y misoedd oerach, rydym ni wedi dechrau sefydlu ‘lleoedd cynnes’ cymunedol yn Wrecsam – lleoedd sydd eisoes wedi’u gwresogi sy’n estyn croeso i bobl ddod i mewn i gadw’n gynnes.
Rydym ni’n dechrau gyda’n llyfrgelloedd ein hunain, lle mae modd i unrhyw un ddod i mewn i gadw’n gynnes a chyfforddus. Bydd sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cynnal ar ddyddiadau penodol i gynnig cymorth a chyngor pellach.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
“Rhywbeth i helpu yn ystod cyfnod heriol iawn”
Meddai’r Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae’r argyfwng costau byw yn achosi poen meddwl i lawer o bobl o ran cadw’n gynnes yn eu cartrefi ac mae pethau yn mynd i waethygu wrth i ni ddynesu at y gaeaf. Mae costau ynni cynyddol yn rhoi straen go iawn ar deuluoedd, felly mae cael lleoedd cymunedol cynnes yn Wrecsam yn rhywbeth i helpu yn ystod cyfnod heriol iawn.
“I gychwyn bydd y lleoedd cynnes yn cynnwys ein llyfrgelloedd ond rydym ni’n gobeithio ychwanegu rhagor o adeiladau cymunedol wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae croeso i unrhyw un ddod i mewn i gadw’n gynnes a chlyd mewn amgylchedd cyfeillgar. Mae’n gyfnod pryderus iawn i lawer o bobl ac rydym ni’n gobeithio y bydd y lleoedd cynnes yn gallu helpu i leddfu ychydig o’r pwysau sydd ar ein cymunedau.”
Dyma’r llyfrgelloedd sy’n rhan o’r cynllun lleoedd cynnes:
- Llyfrgell Brynteg
- Llyfrgell Cefn Mawr
- Llyfrgell y Waun
- Llyfrgell Coedpoeth
- Llyfrgell Gwersyllt
- Llyfrgell Llai
- Llyfrgell Owrtyn
- Llyfrgell Rhos
- Llyfrgell Rhiwabon
- Llyfrgell Wrecsam
Mae oriau agor a chyfeiriad y llyfrgelloedd ar dudalen ‘eich llyfrgell leol’.
Cyngor a Chefnogaeth
Gall pobl fynd i lyfrgelloedd amrywiol Wrecsam ar ddyddiadau penodol i dderbyn cymorth a chyngor gan sefydliadau gwahanol. Bydd y sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal fel a ganlyn:
- Dydd Gwener 7 Hydref 2022 – Llyfrgell Wrecsam, 10am – 2pm
- Dydd Gwener 21 Hydref 2022 – Llyfrgell Cefn Mawr, 10am – 2pm
- Dydd Gwener 4 Tachwedd 2022 – Llyfrgell Brynteg, 12pm – 3pm
- Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022 – Llyfrgell y Waun, 10am – 2pm
- Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Coedpoeth, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022 – Llyfrgell Rhos, 11am – 3pm
- Dydd Gwener 6 Ionawr 2023 – Llyfrgell Gwersyllt, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener 20 Ionawr 2023 – Llyfrgell Rhiwabon, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener 3 Chwefror 2021 – Llyfrgell Llai, 2pm – 5pm
- Dydd Gwener 17 Chwefror 2023 – Llyfrgell Wrecsam, 10am – 2pm
Hefyd, bydd Partneriaeth Parc Caia yn cynnal digwyddiad costau byw ddydd Mercher 19 Hydref 2022 rhwng 10am a 2pm. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr Hwb, Ffordd y Tywysog Siarl, Parc Caia, Wrecsam, LL13 8TH.
Fedrwch chi gynnig lle cynnes?
Mae arnom ni eisiau ychwanegu rhagor o lefydd o gwmpas Wrecsam at ein rhestr o leoedd cynnes, ac rydym ni’n chwilio am sefydliadau cymunedol a thrydydd sector i gymryd rhan yn y cynllun.
Os oes gan eich sefydliad ofod cyhoeddus gyda lle i bobl dreulio amser mewn amgylchedd cyfforddus ac os hoffech chi gefnogi’r cynllun, anfonwch e-bost i decarbonisation@wrexham.gov.uk
Awgrymiadau i arbed ynni yn y cartref
Dyma ambell beth y gallwch chi eu gwneud i arbed ynni yn y cartref:
- Newid bylbiau golau traddodiadol am rai LED. Mae bylbiau LED yn defnyddio tua hanner yr ynni y mae’r bylbiau arbed ynni mawr troellog yn eu defnyddio. Felly, pan fydd hi’n bryd i chi newid eich bylbiau, beth am roi cynnig ar rai LED.
- Atal drafftiau. Gall fod yn gymharol rad i atal drafftiau yn eich cartref, yn defnyddio pethau sydd ar gael mewn siopau DIY. Fe allwch chi gael rholiau o sbwng atal drafftiau ar gyfer ffenestri. I atal gwynt oer rhag dod i mewn drwy’ch drws ffrynt, beth am gael brws atal drafftiau ar gyfer eich blwch llythyrau neu orchudd ar gyfer y twll clo?
- Llenwi’r peiriant golchi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llenwi’r peiriant golchi bob tro rydych chi’n ei ddefnyddio – bydd gennych chi lai o lwythi ac mi fyddwch chi’n arbed ynni.
- Berwi’r hynny o ddŵr sydd arnoch chi ei angen. Po fwyaf o ddŵr sydd gennych chi yn y tegell, y mwyaf o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. Berwch yr hynny o ddŵr sydd arnoch chi ei angen bob tro.
- Diffodd dyfeisiau. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni fe allwch chi arbed hyd at £40 y flwyddyn drwy ddiffodd dyfeisiau yn hytrach na’u gadael yn segur.
- Addasu thermostatau ar eich gwresogyddion. Os oes gennych chi rai, defnyddiwch nhw – efallai nad oes arnoch chi angen gwresogi pob ystafell.
- Insiwleiddio’ch silindr dŵr poeth. Mae silindr dŵr poeth heb ei inswleiddio yn colli gwres. Mae hyn yn golygu bod y dŵr y tu mewn yn oeri’n gynt. Mae rhoi siaced inswleiddio o amgylch eich silindr yn gallu arbed £40 i chi mewn blwyddyn.
- Gwirio pwysedd eich boeler. Mae hyn yn dweud wrthych chi beth yw pwysedd y dŵr sy’n cylchredeg yn eich system wresogi. Os yw’n rhy isel, bydd yn gwneud eich system yn aneffeithlon ac yn defnyddio mwy o ynni i wresogi’ch cartref.
Cyngor pellach
Mae modd i denantiaid y Cyngor dderbyn cymorth, cyngor ac arweiniad drwy’r Swyddogion Cynhwysiant Ariannol sydd yn swyddfa eich ystâd dai leol.
Gall tenantiaid wirio eu bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau sydd ar gael iddyn nhw drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell hawl i fudd-daliadau.
Mae cynllun Nyth yn cynnig cyngor diduedd a rhad ac am ddim ac, os ydych chi’n gymwys, fe allwch chi fanteisio ar welliannau effeithlonrwydd i’ch cartref fel boeler newydd, gwres canolog, deunydd ynysu neu baneli solar.
Mae tudalen we Help For Households GOV.UK yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y mathau o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth am fathau eraill o gymorth a chyngor a all fod ar gael i chi, ewch i wrecsam.gov.uk/lleoeddcynnes
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH